Toglo gwelededd dewislen symudol

Parciau'r ddinas yn chwifio'r faner werdd ar gyfer rhagoriaeth

Mae chwech o brif barciau Abertawe wedi ennill statws baner werdd unwaith eto, gan gydnabod y rôl hanfodol y maen nhw'n ei chwarae wrth hybu lles preswylwyr a gwella'r amgylchedd naturiol.

Brynmill Park

Brynmill Park

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff y safleoedd eu hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol a chynnwys y gymuned.

Yn Abertawe, mae Gerddi Clun, Gerddi Botaneg Singleton, Parc Brynmill, Parc Llywelyn, Parc Cwmdoncyn a Pharc Victoria'r cyngor wedi ennill statws y faner bwysig.

Mae dwy faner werdd arall wedi'u rhoi i Ymddiriedolaeth Penllergaer am eu hymdrechion yng Nghoed Cwm Penllergaer ac mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn cydnabyddiaeth am Gampws Singleton.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Unwaith eto mae ein parciau a'n timau glanhau wedi ennill clod am eu hymrwymiad i gadw ein parciau hyfryd mewn cyflwr arbennig. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod staff ein cyngor wedi cyflawni hyn yn ystod y pandemig gan wneud y cyflawniad hwn hyd yn oed yn fwy arbennig.

"Mae cadw statws y faner werdd yn bwysig i'r cyngor o ran gwneud datganiad ehangach ar ein hymrwymiad i sicrhau bod gan y cyhoedd ac ymwelwyr â'r ddinas fannau gwyrdd rhagorol y gallant ymweld â nhw a mwynhau'r hyn sydd gennym i'w gynnig.

"Rwyf hefyd yn falch o weld nifer mawr o erddi cymunedol hefyd yn cael cydnabyddiaeth am yr hyn maen nhw'n ei gynnig i breswylwyr. Mae hyn yn bennaf oherwydd grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser eu hunain i ofalu am y lleoedd gwyrdd hyn a sicrhau, lle bynnag rydych chi'n byw yn Abertawe, fod rhywle gerllaw y gall teuluoedd ymweld ag ef."

Mae cyfanswm o 13 o 'wobrau cymunedol' hefyd wedi'u rhoi i erddi cymunedol a mannau gwyrdd llai, gan gynnwys dau enillydd newydd - Gardd Gymunedol Clydach a Gardd Gymunedol Blaen-y-maes.

Meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, "Mae lleoedd gwyrdd yn hanfodol ar gyfer lles meddyliol a chorfforol a thrwy gydol y pandemig rydym wedi gweld pa mor bwysig fu'r lleoedd hyn i gymunedau lleol.

"Mae mwy na thraean o safleoedd Baner Werdd cymunedol y DU yng Nghymru, ac mae'n wych gweld mwy o leoedd yng Nghymru yn derbyn gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.

"Mae'r tirweddau hyn yn chwarae rôl hanfodol wrth ddarparu ecosystemau cyfoethog a chymunedau bywiog a chadarn, a hoffwn longyfarch yr holl safleoedd am ddarparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol drwy gydol y flwyddyn i bobl yng Nghymru." 

 Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus, "Dangosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau. Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein lleoedd gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol ar y safleoedd hyn. "

Close Dewis iaith