Toglo gwelededd dewislen symudol

Sophie i redeg bwyty The Green Room yn Abertawe

Mae gan y bwyty newydd lle mae offer yn cael ei osod ar hyn o bryd ym mharc arfordirol newydd Abertawe reolwr newydd yn ogystal ag enw newydd.

Sophie (Green Room Manager)

Sophie (Green Room Manager)

Sophie Smith fydd yn gofalu am redeg y lleoliad o ddydd i ddydd a'i enw fydd 'The Green Room'. The Secret Hospitality Group fydd yn ei weithredu.

Mae enw'r bwyty yn gydnabyddiaeth o'i agosrwydd at Arena Abertawe, yn ogystal â'i nodweddion sy'n llesol i'r amgylchedd.

Mae'n rhan o ardal cam un Bae Copr sy'n werth £135 miliwn, sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe gyda'r rheolwr datblygu RivingtonHark yn cynghori arni.

Mae The Secret Hospitality Group o Abertawe hefyd yn rhedeg The Secret Beach Bar and Kitchen ar Mumbles Road, yn ogystal â The Optimist Bar and Kitchen yn Uplands.

Unwaith y bydd ar agor bydd The Green Room yn cyflogi hyd at 20 o staff o'r ardal leol.

Meddai Sophie sydd o Abertawe,  "Rydym wrth ein boddau gyda'r cynnydd sylweddol rydym yn ei wneud wrth osod offer a dodrefn yn The Green Room sydd yn y parc arfordirol trawiadol drws nesaf i Arena Abertawe. Mae'n rhan o ddatblygiad Bae Copr a arweinir gan Gyngor Abertawe, sy'n gynllun a fydd yn newid pethau'n sylweddol ar gyfer y ddinas.

"Rydym am i bopeth yn y bwyty fod mor gynaliadwy a moesegol â phosib, o bweru'r lleoliad gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy i ddefnyddio cyflenwyr lleol sypiau bach er mwyn cadw'n gwariant yn yr economi leol.

"Er nad yw'r fwydlen wedi'i gorffen eto, rydym yn edrych ar bethau fel brecinio a choffi drwy gydol y dydd, gyda seigiau fel pizza a fydd ar gael gyda'r hwyr.

"Hefyd mae posibilrwydd y gallwn gynnal adloniant byw - bydd The Green Room yn lle gwych i bobl gwrdd, p'un a ydynt yn treulio amser gyda'r teulu a ffrindiau yn y parc arfordirol neu'n bwriadu cael pryd o fwyd cyn digwyddiad yn Arena Abertawe.

"Byddwn hefyd yn cyhoeddi'n dyddiad agor cyn bo hir, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu cwsmeriaid i leoliad rydym yn gyffrous iawn amdano."

Mae digon o blanhigion yn cael eu plannu nawr yn y parc arfordirol 1.1 erw, a disgwylir i Arena Abertawe agor ym mis Mawrth.

Mae nodweddion eraill ardal cam un Bae Copr - sy'n werth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe - yn cynnwys y bont newydd dros Oystermouth Road a lleoedd newydd ar gyfer busnesau lletygarwch.

Ariennir elfen yr arena o'r datblygiad yn rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae
Abertawe gwerth £1.3bn, ac mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r bont yn rhannol drwy'r fenter Teithio Llesol.

Close Dewis iaith