Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mae amser yn brin. Archebwch eich basged grog yn awr!

Mae amser yn brin i breswylwyr sy'n bwriadu sicrhau bod yr haf yn fwy lliwgar gydag ychydig o help gan wasanaeth basgedi crog bythol boblogaidd Cyngor Abertawe.

Hanging baskets - Mumbles Pier cafe.

Mae bron 1,100 o fasgedi eisoes wedi'u gwerthu a bydd rhyw 20 o blanhigion wedi'u plannu ymhob un gan gynnwys y petwnias 'Sanguna Banana Candy', a 'Surfinia Hot Pink', y begonias 'Red Illumination' ac 'Illumination Apricot Shades' y ferfain 'Lanai Blue Eyes' a'r a'r Siani Lusg Lysimachia Nummularia Goldii.

Y llynedd danfonwyd 1,300 o fasgedi i gartrefi a busnesau, a chafodd eraill eu hongian oddi ar bolion lampau a'u gosod mewn cafnau blodau mewn cymunedau ar draws y ddinas.

Mae'r tymor tyfu newydd ddechrau a disgwylir i'r basgedi gael eu danfon ym mis Mai, gyda phob un yn para tan fis Hydref os yw pobl yn gofalu amdanynt. Bydd pob basged yn 35cm (14 modfedd) mewn diamedr.

Os ydych chi'n prynu basged grog fel anrheg, mae'r wefan yn cynnig yr opsiwn i lawrlwytho cerdyn rhodd ar gyfer y derbynnydd.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/basgedicrog am fanylion archebu.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Chwefror 2025