Neuadd eglwys yng Ngorseinon yn cael ei thrawsnewid yn ganolbwynt cymunedol
Bydd caffi, meithrinfa a mannau cwrdd newydd ar gyfer grwpiau gwirfoddol yn rhan o brosiect â'r nod o drawsnewid eglwys a neuadd hanesyddol yng Ngorseinon yn brosiect Heart of the Community.
Caiff neuadd yr eglwys yn Eglwys St Catherine ar Princess Street ei hailddylunio'n fuan diolch i gais llwyddiannus cynghorau Plwyf Casllwchwr a Gorseinon i Gyngor Abertawe am fuddsoddiad fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Pan fydd wedi'i gwblhau, disgwylir y bydd y man cyhoeddus aml-ddefnydd yn gallu cynnal dros 50 o weithgareddau a gwasanaethau i bobl o bob oedran.
Disgwylir i'r prosiect greu swyddi niferus hefyd, a sicrhau bod neuadd yr eglwys yn fwy hygyrch ac yn ynni effeithlon.
Mae'n dilyn ymgynghoriad dwys â'r gymuned gerllaw, gan gynnwys arweinwyr y gymuned, grwpiau sydd eisoes yn defnyddio'r eglwys, banciau bwyd a phobl sydd yn ymweld â'r eglwys. Anfonwyd hefyd holiaduron i gartrefi pobl leol ac roeddent ar gael mewn archfarchnadoedd, swyddfeydd post a meddygfeydd lleol.
Byddai nodweddion eraill y prosiect yn cynnwys man perfformio gwell yn yr eglwys at ddefnydd ysgolion lleol a grwpiau eraill.
Bydd y prosiect yn adeiladu ar lwyddiant nifer o weithgareddau a digwyddiadau a gynhelir eisoes yn neuadd yr eglwys. Mae'r rhain yn cynnwys banc bwyd, caffi dros dro a gweithgareddau fel bowls ar fatiau byrion a gweithgareddau chwaraeon i blant o bob oedran.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae Eglwys St Catherine yn ardal Gorseinon yn enghraifft wych o sefydliad sy'n gwneud cymaint er budd y gymuned.
"Mae'r lleoliad eisoes yn cynnal cynifer o wasanaethau a gweithgareddau sy'n dod â'r gymuned at ei gilydd ac yn helpu i ymdrin afael â materion fel unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol ac iechyd meddwl, ond bydd y grant hwn yn galluogi'r eglwys i wneud cymaint yn fwy.
"Fel cyngor, rydym am sicrhau bod ein dyraniad o arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin oddi wrth Lywodraeth y DU o fudd i gynifer o bobl yn Abertawe ag sy'n bosib.
"Bydd prosiect ailbwrpasu neuadd yr eglwys yn cyflawni'r nod hwnnw yn ardal Gorseinon wrth iddo hwyluso mwy o wasanaethau a gweithgareddau a chreu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl leol."
Adeiladwyd Eglwys St Catherine yng Ngorseinon rhwng 1911 a 1913.
Meddai'r Parchedig Ddoctor Adrian Morgan, Ficer Plwyf Casllwchwr a Gorseinon, "Ein nod yw helpu i drawsnewid bywydau pobl, gan adnewyddu'r ymdeimlad o gymuned trwy gael gwared ar dlodi, unigrwydd ac ynysigrwydd; a thrwy greu cyfleoedd i bobl gwrdd ag eraill a gwirfoddoli, dysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau newydd a gweithio'n lleol. Ar ôl ymarfer gwrando helaeth, mae ein prosiect Heart of the Community yn bwriadu gwneud yr hyn y mae pobl wedi gofyn i ni ei wneud.
"Mae'r grant hwn yn gam angenrheidiol er mwyn cyflawni uchelgeisiau'r prosiect. Bydd yn ein galluogi i wella'r gwasanaethau niferus rydyn ni eisoes yn eu cynnig i'n cymuned, a bydd yn ein galluogi i wneud llawer mwy. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Abertawe i sicrhau bod ein cymuned yn lle gwell, ac i alluogi pobl leol i ddatblygu a ffynnu.
"Rydym yn ffodus i weithio gyda llawer o grwpiau cymunedol lleol a phartneriaid eraill ar draws y rhanbarth i gyflwyno'r prosiect, ac rydym yn ymgysylltu ag arianwyr eraill i sicrhau y bydd pob cam o'r prosiect wedi'i gwblhau'n fuan, er mwyn i ni agor y man gwych hwn at ddefnydd y gymuned oherwydd ein bod am iddo fod o les i bawb."
Mae llawer o brosiectau eraill yn Abertawe hefyd yn cael eu hariannu gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith ailgyflunio yng Nghapel y
Tabernacl Treforys, yr Hwb Goleudy yn yr Ardal Forol i fynd i'r afael ag ynysigrwydd yno, ac estyniad o raglen FIT Jacks a gynhelir gan Swansea City AFC Foundation.