Ailagor hwb chwaraeon a chaffi ym Mharc Underhill
Mae rhagor o newyddion da i glybiau chwaraeon a phreswylwyr sy'n defnyddio Parc Underhill.


Mae Cyngor Abertawe a Chyngor Cymuned y Mwmbwls wedi cydweithio i ailagor yr hwb chwaraeon a'r caffi yno.
Cafodd cae pob tywydd ac ystafelloedd newid Parc Underhill eu hailagor ar 11 Awst a gellir trefnu i'w defnyddio drwy e-bostio bookings@mumbles.gov.uk. Ailddechreuodd sesiynau talu a chwarae ar 18 Awst.
Mae'r hwb yn gyfleuster cymunedol mewn adeilad modern. Mae'n cynnwys caffi sydd ar agor i'r cyhoedd, ystafell gyfarfod ac ystafelloedd newid ar gyfer gweithgareddau chwaraeon.
Y cyngor cymuned sy'n gweithredu'r hwb a'r caffi, am y tro. Ceir rhagor o fanylion drwy fynd i www.mumbles.gov.uk.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, y Cyng. Rob Stewart, "Mae'r ffaith bod yr hwb a'r caffi ar agor eto'n newyddion gwych i breswylwyr lleol."
Meddai'r Cyng. Will Thomas, Cadeirydd Cyngor Cymuned y Mwmbwls, "Diolch i staff y ddau gyngor am weithio'n galed iawn i ailagor y cyfleusterau."
Cymerodd y cynghorau gamau gweithredu cyflym i gyfathrebu â datodwyr a chytuno ar bartneriaeth i gefnogi'r gymuned leol ar ôl i weithredwyr y parc ddatodi'n wirfoddol fis diwethaf.
Llun: Rob Stewart (Cyngor Abertawe) a Martin O'Neill (Cyngor Cymuned y Mwmbwls) yn Hwb Parc Underhill.