Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad hynod lwyddiannus IRONMAN 70.3 yn rhoi hwb o £4.3m i economi leol Abertawe

Mae Abertawe'n dathlu blwyddyn arall o dorri pob record ar gyfer IRONMAN 70.3, wrth i'r treiathlon o'r radd flaenaf roi hwb mawr i economi'r ddinas. Bydd y digwyddiad yn dychwelyd ddydd Sul 12 Gorffennaf 2026.

ironman sunday 2025

ironman sunday 2025

Yn ystod IRONMAN 70.3 yr haf hwn, cyfrannodd athletwyr, gwylwyr a chyflenwyr dros £4.3 miliwn at economi Abertawe, gan roi hwb i fusnesau twristiaeth a lletygarwch a swyddi lleol.

Mae'n gynnydd sylweddol ar ddigwyddiad y llynedd, yn rhannol oherwydd bod Abertawe'n cynnal cyfres broffesiynol IRONMAN, a gynhyrchodd £1.7 miliwn mewn gwerth cyfryngau gyda'r digwyddiad yn cael ei ddarlledu ledled y byd.

Mae'r digwyddiad yn parhau i dyfu o ran poblogrwydd ac effaith, gyda mwy na 2,200 o gofrestriadau wedi'u gwerthu ar gyfer digwyddiad 2026 a llai na 200 o leoedd ar ôl.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, y Cyng. Rob Stewart, "Mae IRONMAN 70.3 Abertawe wedi dod yn ddigwyddiad blaenllaw yn ein dinas, gan ddod â miloedd o ymwelwyr a miliynau o bunnoedd i'r economi leol.

"Bob blwyddyn, mae'r digwyddiad yn tyfu o ran maint ac enw da, gan arddangos harddwch naturiol Abertawe, ei sector lletygarwch bywiog a'i chroeso cynnes.

"Hoffwn ddiolch i breswylwyr a busnesau Abertawe am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad gwych, yn enwedig y rhai sydd wedi addasu eu trefniadau i helpu i sicrhau bod y digwyddiad hwn mor llwyddiannus â phosib.

"Mae brwdfrydedd y bobl leol yn un o'r prif resymau pam mae IRONMAN 70.3 yn parhau i ffynnu yma, a pham mae athletwyr ac ymwelwyr yn parhau i ddod yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn."

Mae'r digwyddiad wedi derbyn adborth hynod gadarnhaol gan athletwyr, gyda sgôr boddhad o 90.3% - ymhell uwchlaw'r cyfartaledd rhanbarthol. Mae mwy na hanner cystadleuwyr eleni eisoes wedi mynegi eu bwriad i ddychwelyd i gymryd rhan yn ras Abertawe eto'r flwyddyn nesaf.

Mae cynnwys Abertawe yng nghyfres broffesiynol IRONMAN wedi denu athletwyr elitaidd o bob cwr o'r byd, ac mae busnesau lleol - yn enwedig y rhai ym maes llety, lletygarwch a thwristiaeth - wedi adrodd penwythnos prysur a llwyddiannus, gyda miloedd o wylwyr yn mwynhau atyniadau'r ddinas.

Meddai Jessica Holland, Cyfarwyddwr Gwerthiannau yng ngwesty'r Village yn Abertawe, "Mae IRONMAN 70.3 Abertawe yn dod ag egni anhygoel i'r ddinas, ac rydym yn falch o fod yn rhan o'r digwyddiad. Gwelsom gynnydd o ran archebion a gwnaethom groesawu gwesteion o bob cwr o'r DU a thu hwnt. Mae'n wych i fusnesau ac mae'n ddathliad o ysbryd, golygfeydd a lletygarwch Abertawe."

Cytunodd Ryan Hole, Rheolwr Gyfarwyddwr The Secret Beach Bar & Kitchen, "IRONMAN 70.3 Abertawe yw un o ddiwrnodau mwyaf cyffrous y flwyddyn i ni. Gwnaethom greu Pentref Cyfrinachol er mwyn cynnig rhywle canolog i wylwyr fwynhau'r digwyddiad, gyda bwyd, diod a cherddoriaeth fyw wych ar gynnig. Mae'n wych i Abertawe - mae'n gyfle i ddod â phobl ynghyd ac mae'n rhoi ein harfordir trawiadol ar y map."

Ychwanegodd Tom Beynon o Three Cliffs Bay Holiday Park, "Mae'r digwyddiad yn dod ag awyrgylch gwirioneddol wych i'r ardal; mae'n annog ymwelwyr ac archebion dro ar ôl tro ar gyfer busnesau lleol."

Mae llwybr IRONMAN 70.3 Abertawe, sy'n cynnwys glannau'r ddinas, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr, wedi cael ei bleidleisio fel un o'r goreuon yn Ewrop ac mae'n parhau i ysbrydoli cystadleuwyr a phreswylwyr lleol i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch iach.

I gael rhagor o wybodaeth am IRONMAN 70.3 yn Abertawe ewch i www.croesobaeabertawe.com/chwaraeon-haf/ironman/  

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Hydref 2025