Gweithwyr creadigol proffesiynol yn dod â bywyd newydd i adeilad eiconig yn Abertawe
Mae adeilad eiconig yng nghanol dinas Abertawe eisoes yn cael ei ddefnyddio eto wrth i gynlluniau i'w agor i'r cyhoedd ddatblygu'n gyflym.
Mae hen adeilad siop adrannol JT Morgan ar Belle Vue Way - a fu'n wag ers 2008 - bellach yn gartref i gymuned o arlunwyr, cerflunwyr, awduron, dylunwyr ffasiwn a golygyddion fideo.
Mae pob un o'r 55 stiwdio newydd yn yr adeilad wedi'u meddiannu'n llawn ar ôl cwblhau cam cyntaf ei adfywiad fel rhan o brosiect dan arweiniad Oriel Elysium.
Yn ogystal â'r stiwdios, roedd cam cyntaf y gwaith hefyd yn cynnwys gosod to newydd gyda phaneli solar, lifft newydd a chyflenwad pŵer newydd.
Mae'r prosiect wedi'i gefnogi gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a helpodd i ariannu'r gwaith mewnol, y gwaith gwagio a'r gwelliannau i'r to.
Cafwyd cymorth ychwanegol gan gynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, a menter cyfrannau cymunedol.
Mae cam dau'r gwaith i drawsnewid hen adeilad JT Morgan bellach yn mynd rhagddo, ac yn canolbwyntio ar y llawr gwaelod a'r islawr.
Pan fydd wedi'i orffen, bydd yn arwain at agor yr adeilad i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers bron dau ddegawd. Bydd yn cynnwys oriel, siop goffi, ystafell achlysuron, canolfan addysg ac ystafell dawel. Bydd cyfleuster Changing Places' hefyd yn cael ei gynnwys i gefnogi mynediad cynhwysol ac ymgysylltu â phlant ac oedolion anabl.
Bydd yr oriel yn agor mewn pryd ar gyfer ei harddangosfa gyntaf ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf, gyda'r artist enwog André Stitt.
Meddai Dan Staveley, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr oriel a stiwdios Elysium, "Mae'n hanfodol bwysig defnyddio adeiladau gwag eto.
"Mae gan yr adeilad hwn statws eiconig yn Abertawe felly mae ei weld yn cael bywyd newydd yn gwneud i bobl deimlo'n fwy cadarnhaol. Mae'n gwneud i bobl deimlo'n well am y ddinas.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn falch iawn o gefnogi menter Elysium gyda'i gwaith parhaus i roi bywyd newydd i hen adeilad JT Morgan fel rhan o brosiect a fydd yn ategu'r atyniadau diwylliannol gwych sydd gan Abertawe eisoes, gan gynnwys ein horiel ein hunain, Oriel Gelf Glynn Vivian."
Meddai Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru, "Mae hon yn enghraifft drawiadol o sut y gall adfywio creadigol roi bywyd newydd i'n trefi a'n dinasoedd, wrth fynd i'r afael â phroblem adeiladau gwag.
"Mae trawsnewid hen adeilad JT Morgan yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi cymunedau bywiog, cynhwysol drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru."
Mae stiwdios Elysium yn Mansel Street a College Street yn parhau i fod ar agor ac mae ei chanolfan yn y Stryd Fawr yn parhau i gynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw. Mae ei hen ganolfan ar Orchard Street bellach ar gau.
