Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn ôl gyda rhaglen sy'n llawn perfformwyr enwog a ffefrynnau cyfarwydd.

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn ôl gyda rhaglen sy'n llawn perfformwyr enwog a ffefrynnau cyfarwydd.

Alan Barnes Musician

Alan Barnes Musician

Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â Chlwb Jazz Abertawe a chynhelir Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni mewn lleoliadau ar draws Abertawe o nos Iau 23 i nos Sul 26 Mehefin 2022.

Mae rhaglen y gyngerdd yn agor gyda Bruce Adams (trwmped) ac Alan Barnes (sacsoffon), ill dau'n gerddorion arobryn, uchel eu parch ym myd jazz y DU, yn chwarae yng Nghlwb Jazz Abertawe yn lleoliad cerddoriaeth The Garage yn Uplands.

Theatr Dylan Thomas yr Ardal Forol fydd y lleoliad ar gyfer y pum digwyddiad arall yn yr ŵyl y mae'n rhaid prynu tocynnau ar eu cyfer, gan ddechrau gyda The Simon Spillett Big Band yn chwarae cerddoriaeth Tubby Hayes nos Wener. Mae band mawr 17 aelod Spillet yn cynnwys cerddorion gorau jazz Prydeinig, a phob un yn aelodau o Fand Mawr y BBC a Cherddorfa Jazz Ronnie Scott.

Brynhawn dydd Sadwrn, bydd Pedwarawd Karen Sharp ar y llwyfan a bydd dwy o gerddorion benywaidd gorau'r DU, Karen Sharp (sacsoffon) a Nikki Iles (piano) yn cael y sylw. Mewn cyferbyniad â hyn, mae Pedwarawd James Taylor, sydd wedi gosod y safon ar gyfer y seiniau mwyaf cŵl ym myd jazz asid ffynci am dros 30 o flynyddoedd, yn perfformio nos Sadwrn dan arweiniad James ar yr organ Hammond.

Bydd The Louis and Ella Music Show yn ail-greu caneuon mawr y cyfnod 'swing' brynhawn dydd Sul, gyda threfniannau diledryw o ganeuon Louis Armstrong ac Ella Fitzgerald wedi'u recordio gyda'i gilydd ac ar wahân. Daw nos Sul yn yr ŵyl i ben gyda Some Kinda Wonderful, band a grëwyd gan Derek Nash, sacsoffonydd Jools Holland, a chyda llais esgynnol Noel McCalla, byddant yn eich ysgogi i godi ar eich traed i ddawnsio i ganeuon gwych Stevie Wonder.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, Robert Francis-Davies, "Rydym yn falch iawn o fod yn partneru gyda Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe sydd wedi dod yn ddigwyddiad sefydlog yng nghalendr digwyddiadau'r ddinas.

"Mae'r ŵyl yn denu rhai o'r cerddorion gorau o fyd jazz y DU, sy'n chwarae amrywiaeth o arddulliau ar draws y genre jazz, yr wyf yn siŵr y bydd cynulleidfaoedd o bob rhan o Abertawe'n dod i'w mwynhau.

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe wedi gwneud gwaith gwych wrth sefydlu'r ŵyl dros y blynyddoedd diweddar ac edrychwn ymlaen yn awr i gydweithio er mwyn parhau â'i llwyddiant a'i datblygu'n fwy byth."

Meddai cyfarwyddwr artistig Clwb Jazz Abertawe, Dave Cottle, "Dydyn ni ddim wedi cael llawer o amser i baratoi ar gyfer gŵyl eleni, ond rydym wedi llwyddo i gael rhaglen jazz ragorol ac amrywiol at ei gilydd yn gyflym.

"Mae cyngherddau gwych i edrych ymlaen atynt ac mae rhai ffefrynnau'n dychwelyd hefyd ar y rhaglen grwydro. Bydd Marina Abertawe'n llawn bywyd eto gyda phenwythnos o jazz byw!

"Rydym wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda Chyngor Abertawe ac edrychwn ymlaen at yr amserau cyffrous sydd o'n blaenau".

Mae noddwr yr ŵyl, Syr Karl Jenkins, wrth ei fodd bod Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn ôl ar gyfer 2022. Meddai, "Mae'n newyddion gwych bod yr ŵyl yn ôl eleni. Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i'r diwydiant cerddoriaeth cyfan ac yn enwedig i gerddorion dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Fodd bynnag, mae dychweliad yr ŵyl yn arwydd cadarnhaol fod pethau'n dechrau dod yn ôl i'r arfer ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gallu dod yma i gefnogi'r cyngherddau eleni."

Heblaw am y rhestr gyffrous o gyngherddau y mae'n rhaid cael tocynnau ar eu cyfer, mae gŵyl eleni'n cynnwys rhaglen grwydro lawn mewn lleoliadau ar draws ardal forol Abertawe, gan gynnwys: The Pumphouse, Queens Hotel, The Swigg, The Riverhouse, a'r amffitheatr y tu allan i fynedfa'r LC.

Hefyd fel rhan o raglen eleni ceir cyfres o fordeithiau jazz ar fwrdd y Copper Jack, cwch cul sy'n teithio ar afon Tawe a fydd yn cynnwys Ellie Jones a Gary Phillips ar brynhawn Sadwrn a'r ddeuawd 'Afternoon in Paris' ddydd Sul.

Mae manylion llawn a thocynnau ar gael yn www.croesobaeabertawe.com

Llun: Alan Barnes