Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trawsnewidiad allweddol i ganol y ddinas yn cael ei gymeradwyo gan y diwydiant

​​​​​​​Mae Ffordd y Brenin ar ei newydd wedd yn Abertawe wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ei ffocws ar gynaladwyedd.

The Kingsway

The Kingsway

Daw'r gymeradwyaeth ar gyfer prosiect adfywio lle trawsnewidiwyd y lleoliad yn amgylchedd croesawgar i fodurwyr, cerddwyr, beicwyr, busnesau a defnyddwyr cludiant cyhoeddus.

Cyngor Abertawe oedd yn gyfrifol am arwain y cynllun gwerth £13m - a daw'r gymeradwyaeth ar ffurf asesiad cadarnhaol yn y cynllun peirianneg sifil Ceequal.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae Ffordd y Brenin - a oedd yn bedair lôn o ffyrdd yn flaenorol - bellach yn amgylchedd cynaliadwy gwyrdd ac atyniadol lle mae pobl yn hoffi byw, gweithio a threulio amser da gyda theulu a ffrindiau.

"Mae cydnabyddiaeth Ceequal yn anrhydedd o fri ac rwy'n llongyfarch pawb a fu'n rhan o'r prosiect adfywio arbennig iawn hwn gan gynnwys y contractwr Griffiths a gafodd fewnbwn i'r asesiad."

Meddai Mark Thomas, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Mae Ffordd y Brenin yn ganolog i'r gwaith gwerth £1bn i adfywio'r ddinas sy'n parhau mewn lleoliadau fel Bae Copr, Wind Street, 71-72 Ffordd y Brenin a Sgwâr y Castell - ac mae llawer mwy i ddod. Rydym yn diogelu ac yn creu miloedd o swyddi yng nghanol y ddinas."

Trawsnewidiwyd Ffordd y Brenin gyda gwaith a barhaodd drwy gydol y pandemig.  Gyda'r ffordd wedi'i lleihau i ddwy lôn, enillodd y lleoliad ardaloedd eang ar gyfer llwybrau i gerddwyr a beicwyr, tirlunio gwyrdd a lleoedd eraill i ymlacio. 

Galluogodd hyn system draffig ddwy ffordd a gwell tirlunio ar ffyrdd cyfagos. Cyflwynwyd tua 170 o goed newydd yn un o brosiectau plannu coed mwyaf canol y ddinas.

Mae Ceequal yn gynllun asesu, graddio a dyfarnu cynaladwyedd rhyngwladol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer peirianneg sifil, isadeiledd, tirlunio a gwaith mewn mannau cyhoeddus. Fe'i gweithredir gan gyfranddalwyr y diwydiant.

Roedd dyfarniad "da" Ceequal ar gyfer cynllun Ffordd y Brenin wedi dilyn archwiliad trylwyr o ddyluniad, gwaith adeiladu ac ystyriaethau cynnal a chadw'r prosiect.

Roedd Prosiect Isadeiledd Ffordd y Brenin yn cynnwys £4.5m o gyllid gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Rhagor o wybodaeth: www.ceequal.com

Llun: Ffordd y Brenin Abertawe ar ei newydd wedd.

 

 

 

Close Dewis iaith