Cenhedlaeth newydd o warchodfeydd natur wedi'u cynllunio ar gyfer ein dinas
Mae Abertawe ar fin creu cenhedlaeth newydd o 16 gwarchodfa natur leol newydd yn y blynyddoedd nesaf dan gynigion a datgelwyd gan y cyngor.

Mae preswylwyr yn cael eu hannog i fynegi eu barn ar fenter a fydd yn rhoi hwb i rai o drysorau gwyrdd llai adnabyddus y ddinas, ochr yn ochr â lleoedd poblogaidd fel Parc Singleton a Pharc Brynmill, Bae Abertawe a Pharc Gwledig Cwm Clun.
Mae'r rhaglen ymgysylltu â'r gymuned eisoes ar y gweill, bydd cyfleoedd i fynegi eich barn yn bersonol, a gallwch ddweud eich dweud ar-lein yma.
Gellir dynodi statws Gwarchodfa Natur Leol ar dir sy'n eiddo i'r cyngor neu sydd ar brydles tymor hir i'r cyngor yn unig. Mae gan Abertawe chwe gwarchodfa natur leol eisoes, megis Coed yr Esgob a Rhos Cadle, ond nid oes unrhyw rai newydd wedi'u dynodi ers bron 30 mlynedd.
Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, 'Mae llawer iawn o waith eisoes wedi mynd rhagddo i nodi lleoliadau posib a fyddai'n elwa o gael statws Gwarchodfa Natur Leol.
"Nid yw'r mannau gwyrdd ac arfordirol hyn yn rhai newydd - maent yn rhai adnabyddus a phoblogaidd, sydd eisoes yn hanfodol ar gyfer bioamrywiaeth. Ein nod yn y tymor hir yw gwneud yr ardaloedd hyn hyd yn oed yn well i bobl ac i fyd natur.
"Ni fydd dynodi Gwarchodfa Natur Leol yn golygu newidiadau dramatig dros nos, ond bydd yn rhoi cydnabyddiaeth ac amddiffyniad ychwanegol i'r lleoedd hyn. Bydd gwelliannau yn cael eu llunio gan frwdfrydedd a syniadau lleol, a byddant yn digwydd yn raddol wrth i gyfleoedd ac adnoddau ganiatáu."
Meddai, "Drwy ddynodi 16 gwarchodfa natur leol newydd, byddwn yn dathlu'r hyn sy'n gwneud Abertawe'n arbennig - ein cysylltiad â lleoedd gwyrdd ar garreg ein drws.
"Mae'r safleoedd hyn yn adnabyddus yn eu cymunedau, ac rydym am i gynifer o bobl â phosib ein helpu i sicrhau eu bod yn ffynnu yn y blynyddoedd i ddod."
Gall statws Gwarchodfa Natur Leol hefyd alluogi'r cyngor a grwpiau cymunedol i gael mynediad at gyllid grant i wella bioamrywiaeth a datblygu syniadau a fydd yn rhoi hwb i'r mannau gwyrdd a glas fel cyrchfannau ar gyfer cynulleidfaoedd ehangach, megis paneli dehongli a gwell mynediad yn ôl yr angen.
Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens, "P'un a ydych yn ymweld â'n parciau a'n traethau yn rheolaidd, yn byw ger ein coetiroedd, neu'n rhywun sy'n poeni am fywyd gwyllt, rydyn ni am glywed gennych."
Ymysg yr ardaloedd a restrir fel gwarchodfeydd natur lleol posib mae:
· Twyni a thraeth Porth Einon
· Brynlliw, Pengelli
· Parc Coed Bach, Pontarddulais
· Coridor bywyd gwyllt Hillside sy'n cysylltu Townhill, Mayhill, Cwmbwrla a'r Cocyd
· Fferm y Garth, ger Clydach
· Rhos a Pharc Llewelyn
· Parc Blaendraeth Llwchwr
· Cwm Tawe Isaf rhwng Llyn Pluck a Llansamlet
· Parc Melin Mynach, Gorseinon
· Cwrs rasio Pen-lan
· Y clogwyni - Bae Caswell, Bae Langland i Ben y Mwmbwls ac Ynys y Mwmbwls
· Coetiroedd West Cross a Nant Washinghouse
· Coetiroedd Ynysforgan
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwarchodfeydd Natur Lleol arfaethedig ac i ddweud eich dweud am yr ymgynghoriad, ewch i'r ddolen hon.