Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith yn Sgwâr y Castell yn cymryd cam arall ymlaen

​​​​​​​Mae eich cyngor yn paratoi i gymryd cam cynnar newydd wrth drawsnewid Sgwâr y Castell yn le mwy croesawgar a gwyrdd.

Leaf Boat sculpture

Leaf Boat sculpture

Mae'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ar y safle'n cynnwys ailosod ceblau foltedd uchel i adlewyrchu dyluniad newydd y sgwâr a grëwyd gan y cyngor gyda llawer o gymorth drwy ymgysylltiadau cyhoeddus.

Disgwylir i'r cam nesaf gael ei gwblhau yr wythnos nesaf, sef cael gwared ar y cerflun cwch deilen.

Caiff ei storio'n ddiogel wrth i'r cyngor benderfynu ar leoliad arall yn Abertawe ar ei chyfer ar ôl trafod â phobl eraill gan gynnwys y cerflunydd.

Disgwylir i'r prif waith i drawsnewid Sgwâr y Castell ddechrau yn ystod yr wythnosau ar ôl symud y cerflun.

Bydd pob busnes yn yr ardal yn masnachu fel arfer.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'n wych gweld bod gwaith yn symud ymlaen yn y lleoliad allweddol; bydd Gerddi Sgwâr y Castell ar eu newydd wedd yn fan gwych i gwrdd, treulio amser o safon a mwynhau digwyddiadau a chynulliadau.

"Caiff cerflun y cwch deilen ei storio'n ddiogel i'w ddefnyddio yn y dyfodol yn Abertawe."

Crëwyd y cerflun gwydr a haearn gan yr artist Amber Hiscott, a chafodd ei hysbrydoli gan linellau o farddoniaeth Dylan Thomas a'r ffordd y mae'r goleuni'n adlewyrchu oddi ar Fae Abertawe.

Disgwylir i'r prif waith ar y sgwâr newydd gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. Bydd yn golygu y bydd Sgwâr y Castell, sy'n edrych yn ddifywyd ar hyn o bryd, yn dod yn wyrddach ac yn fwy croesawgar i bawb.

Bydd y newidiadau'n cynnwys:

  • Ychwanegu dau adeilad pafiliwn ar gyfer busnesau bwyd, diod neu fanwerthu
  • Ychwanegu mwy o wyrddlesni i ddarparu ardal sy'n 40% mannau gwyrdd
  • Nodwedd ddŵr newydd ar gyfer chwarae rhyngweithiol
  • Sgrîn deledu enfawr newydd uwchben cyfleuster tebyg i safle seindorf
  • Ardaloedd eistedd newydd yn yr awyr agored
  • Cadw lle at ddefnydd y cyhoedd

Llun: Sut y gall Sgwâr y Castell edrych yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mehefin 2025