Toglo gwelededd dewislen symudol

Partneriaid hamdden y cyngor yn gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy'n dychwelyd yn dilyn y pandemig

Yn ôl adroddiad newydd, heidiodd ymwelwyr yn ôl i ganolfannau hamdden a lleoliadau cyrchfan a gefnogir gan Gyngor Abertawe yn y misoedd yn dilyn y pandemig yn 2021 a 2022.

The LC

Dychwelodd cwsmeriaid i Freedom Leisure, Pwll Cenedlaethol Cymru, Plantasia ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ar ôl iddynt gael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a'r cyngor drwy gydol argyfwng COVID-19.

Cynyddodd niferoedd ymwelwyr â'r LC yng nghanol y ddinas a'i chyfleusterau hamdden cymunedol eraill 84% i 1.42m yn y misoedd ar ôl iddynt agor eu drysau i'r cyhoedd. Cododd niferodd ymwelwyr â Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe i 202,000.

Ac er bod yr holl leoliadau'n wynebu heriau, yn enwedig gyda biliau ynni sy'n codi i'r entrychion a'r angen i barhau i gynyddu niferoedd ymwelwyr, dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod eu llwyddiant parhaus yn hanfodol.

Ar 20 Ebrill, ystyriodd Cabinet Cyngor Abertawe Adroddiad Blynyddol ei Bartneriaethau Hamdden, gan edrych ar niferoedd ymwelwyr a pherfformiad ariannol sefydliadau yn y ddinas y mae'r cyngor yn darparu cymorth ariannol a chefnogaeth arall iddynt, ar gyfer y cyfnod 2021/22.

Roedd yr adroddiad i'r Cabinet yn canolbwyntio ar gyfnod 2021/22 ac yn amlygu sut roedd partneriaid hamdden y cyngor, fel sefydliadau eraill ar draws Cymru a'r DU, yn dod allan o'r pandemig, gan asesu eu heriau a'u cyfleoedd.

Drwy gytundebau partner ar wahân ac wedi'u trefnu'n wahanol, mae Cyngor Abertawe hefyd yn parhau i gefnogi Canolfan Tennis Abertawe a Stadiwm Bowls Abertawe wrth i'w niferoedd ymwelwyr adfer yn dilyn y pandemig.

Close Dewis iaith