Toglo gwelededd dewislen symudol

Rydym yn symud! Staff y llyfrgell a miloedd o eitemau sydd ar gael am ddim

Mae staff ym mhrif lyfrgell Abertawe'n brysur yn paratoi i symud i'w cartref newydd yng nghanol y ddinas.

Library Staff On The Move

Library Staff On The Move

Mae oddeutu 60,000 o lyfrau ac eitemau eraill sydd ar gael am ddim yn cael eu paratoi'n ofalus ar gyfer symud i'r Storfa.

Maent yn cynnwys oddeutu:

·       5,000 o fapiau hanesyddol a modern

·       3,500 o roliau microffilm, gan gynnwys papurau newydd wedi'u harchifo

·       4,000 o lyfrau bwrdd/llyfrau lluniau

Mae eitemau sy'n symud o'r Llyfrgell Ganolog bresennol hefyd yn cynnwys llyfrau clawr caled a phapur a deunyddiau hygyrch fel llyfrau print bras, llyfrau sain, casgliadau sy'n cefnogi dyslecsia a llyfrau Braille.

Bydd papurau newydd corfforol fel y South Wales Evening Post ar gael yn Y Storfa. Bydd cyfrolau o bapurau newydd wedi'u rhwymo ar gael.

Bydd ymwelwyr Y Storfa'n gallu cael mynediad at gannoedd o bapurau newydd a chyfnodolion ar-lein drwy gyfleusterau Press Reader a Borrowbox gwasanaeth y llyfrgell. Byddant ar gael ar dabled y llyfrgell - a elwir yn Hublet - ac ar ddyfeisiau personol.

Gellir cael mynediad at bapurau newydd hanesyddol ar-lein drwy adnoddau â thanysgrifiad a gwasanaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd gemau bwrdd ar gael i blant, teuluoedd ac oedolion eu chwarae yn y llyfrgell.

Bydd gan y llyfrgell i blant â blaen gwydr yn y Storfa filoedd o lyfrai, wal synhwyraidd, gemau rhyngweithiol ac addysgol sy'n cefnogi datblygiad gwybyddol a meddwl yn greadigol, ac ardal gemau hen ffasiwn i blant hŷn.

 

Bydd gwaith y staff i symud/adleoli'r staff yn golygu y bydd holl wasanaethau'r llyfrgell yn y Ganolfan Ddinesig ar gau y dydd Llun hwn (sylwer: 20 Hydref)- a bydd yn ailagor yn llawn ychydig wythnosau ar ôl hynny pan fydd Y Storfa'n agor. Caiff y dyddiad ei gadarnhau'n fuan.

Bydd rhwydwaith Abertawe o 16 o lyfrgelloedd cymunedol yn parhau i fod ar agor fel arfer drwy'r newid, ond ni fydd cyfrifiaduron cyhoeddus ar gael ar 22 a 23 Hydref i ganiatáu gwaith cynnal a chadw arferol.

Yn ystod y cyfnod trosglwyddo, gall aelodau'r llyfrgell ddychwelyd eitemau a fenthycwyd i leoliadau eraill y gwasanaeth llyfrgelloedd. Bydd gwasanaethau ar-lein yn parhau i fod ar gael 24/7.

 

Meddai Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, "Bydd Y Storfa'n darparu Llyfrgell Ganolog fodern a chroesawgar i breswylwyr yng nghanol y ddinas.  Mae'n dda gweld bod paratoadau ar gyfer y gwaith symud ar y gweill."

 

Bydd nifer o wasanaethau eraill - a reolir gan y cyngor ac eraill - hefyd ar gael yn Y Storfa pan fydd y cyfleuster yn agor.

 

Mae arianwyr Y Storfa yn cynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

 

Llun: Staff Llyfrgell Ganolog Abertawe'n paratoi i symud i'r Storfa.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Hydref 2025