Neuadd Eglwys yn agor ei drysau fel un o Leoedd Llesol Abertawe
Mae neuadd eglwys sydd wedi agor ei drysau dan fenter Lleoedd Llesol Abertawe y gaeaf hwn wedi dod yn lleoliad poblogaidd i aelodau cymunedol ar ddydd Iau.
![Swansea Space - Llangyfelach Church Hall](/image/11775/Swansea-Space---Llangyfelach-Church-Hall/standard.jpg?m=1678373737370)
![Swansea Space - Llangyfelach Church Hall](/image/11775/Swansea-Space---Llangyfelach-Church-Hall/gi-responsive__100.jpg?m=1678373737370)
Mae Neuadd Eglwys Llangyfelach wedi bod yn cynnal Hwb Cynnes rhwng 10am a 2pm lle gall pobl fynd i gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau fel gemau bwrdd a mwynhau diod boeth a chawl am ddim.
Mae'n un o fwy na 80 o leoliadau cynnes a chroesawgar yng nghyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe y gall pobl fynd iddynt am ddim yn ystod y gaeaf.
Mae'r cyfeiriadur i'w gael yma: https://www.abertawe.gov.uk/LleoeddLlesolAbertawe
Galwodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayleu Gwilliam heibio neuadd yr eglwys yn ddiweddar i siarad â threfnwyr a defnyddwyr.
Meddai, "Mae cyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe wedi rhagori ar ein disgwyliadau o ran faint o grwpiau a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o'r fenter a hefyd yn y ffordd y mae wedi helpu i fynd i'r afael ag unigedd."