Toglo gwelededd dewislen symudol

Plac glas ym Mae Langland i anrhydeddu athronydd

Dadorchuddiwyd plac glas newydd ym Mae Langland i anrhydeddu un o athronwyr mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif, Ludwig Wittgenstein, gan gydnabod ei gysylltiad parhaus ag Abertawe a'i phrifysgol.

Blue Plaque unveiled for Ludwig Wittgenstein

Blue Plaque unveiled for Ludwig Wittgenstein

Mae'r plac ar wal y promenâd ger y caffi Hole in the Wall - credir bod yr athronydd wedi cerdded heibio i'r lle lawer o weithiau yn ystod ei ymweliadau â'r ardal. 

Dyma un o lawer o blaciau glas a osodwyd yn Abertawe fel rhan o gynllun dan arweiniad Cyngor Abertawe i ddathlu treftadaeth y ddinas. 

Credir yn eang fod Wittgenstein, a aned yn Fienna ym 1889, yn un o athronwyr mwyaf yr oes fodern. 

Ysgogwyd ei ymweliadau ag Abertawe gan ei gyfeillgarwch agos â'r athronydd Rush Rhees, a fu'n addysgu ym Mhrifysgol Abertawe o 1940 tan 1966. 

Yn ystod y blynyddoedd hyn, arhosai Wittgenstein yn aml mewn gwestai ym Mae Langland ac Uplands, gan dreulio amser yn cerdded ar hyd morlin Gŵyr a datblygu syniadau a fyddai'n llywio ei waith diweddarach. 

Credir bod yr hafau hyn yn Abertawe wedi cael dylanwad dwys ar athroniaeth Wittgenstein. 

Mewn llythyr ym 1945 at ei gyfaill Norman Malcolm, myfyriodd yn wresog ar ei amser yn yr ardal, "Rwy'n adnabod nifer o bobl yma rwy'n eu hoffi. Mae'n ymddangos yn haws i mi gyd-dynnu â phobl yma nag yn Lloegr. Rwy'n teimlo fel gwenu'n llawer amlach."

Mae Wittgenstein yn fwyaf adnabyddus am ei waith ym meysydd rhesymeg, athroniaeth mathemateg, athroniaeth y meddwl, ac athroniaeth iaith. 

Cynigiwyd y plac gan Dr Alan Sandry, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe. 

Meddai'r Cyng. Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, "Mae cysylltiad Ludwig Wittgenstein ag Abertawe'n stori anhygoel sy'n cysylltu ein dinas ag un o feddylwyr mwyaf yr 20fed ganrif. 

"Gwnaeth ei amser yma ddylanwadu ar ei athroniaeth a helpu i ysbrydoli cenhedlaeth o athronwyr ym Mhrifysgol Abertawe. 

"Mae'r cynllun placiau glas yn ein galluogi i ddathlu'r cysylltiadau pwerus hyn a'u rhannu â phreswylwyr ac ymwelwyr, gan helpu i amlygu'r bobl sydd wedi llunio treftadaeth ddiwylliannol a deallusol ein dinas." 

Drwy'r cynllun placiau glas, sydd yn ei 12fed flwyddyn bellach, gall aelodau'r cyhoedd enwebu pobl a lleoedd o ddiddordeb hanesyddol. 

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi derbyn plac glas y mae'r pensaer Glendenning Moxham, y cerddor Pete Ham, y nofelydd Ann o Abertawe, yr ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth Jessie Donaldson, fforiwr pegwn y de Edgar Evans, a Chae'r Vetch.

Ewch yma i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i enwebu rhywun neu rywle.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Tachwedd 2025