Toglo gwelededd dewislen symudol

Data Dangosyddion MALlC

Data dangosyddion blynyddol o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).

Fel rhan o'i allbynnau 2019 MALlC, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r data dangosyddion ardaloedd lleol a ddefnyddiwyd i lunio'r mynegai. 

Mae amrywiaeth eang o ddata ar gael, gyda phob dangosydd MALlC - a restrir isod - yn cael ei gynnwys mewn un o'r wyth parth amddifadedd: Incwm, Cyflogaeth, Iechyd, Addysg, Mynediad at Wasanaethau, Tai, Diogelwch Cymunedol a'r Amgylchedd Ffisegol.  Mae gwybodaeth bellach am bob un o'r dangosyddion a ddefnyddir yn MALlC 2019 ar gael yn y rhestr atodedig o  barthau a dangosyddion (PDF) [471KB]

Mae'r ffeiliau data a gynhwysir ar y dudalen hon yn cynnwys ystadegau dangosyddion MALlC 2019 sydd ar gael ar gyfer 148 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) Abertawe ac ardaloedd daearyddol eraill; gan gynnwys Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG - 31 yn Abertawe), y tair Ardal Etholaethol leol, ardal awdurdod lleol Abertawe a Chymru. 

Er bod y mynegai ei hun yn cael ei gyhoeddi bob tair i bum mlynedd, caiff data'r dangosyddion ei ddiweddaru fel arfer bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru, cyn belled ag y bo modd - gan ddibynnu ar argaeledd data ac adnoddau.  Fodd bynnag, nid yw cynlluniau cyhoeddi diweddariadau yn y dyfodol wedi'u cadarnhau eto. 

Os hoffech chi gael unrhyw wybodaeth bellach neu ddata lleol gan MALlC, gan gynnwys data dangosyddion ar gyfer blynyddoedd blaenorol, cysylltwch â ni.


Incwm (Excel doc) [34KB]

  • Pobl mewn amddifadedd incwm (%)

Cyflogaeth (Excel doc) [35KB]

  • WPobl oedran gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth (%)

Iechyd (Excel doc) [90KB]

  • Diagnosis o gyflwr cronig a gofnodwyd gan feddyg teulu (cyfradd fesul 100)
  • Salwch Hirdymor Cyfyngol (cyfradd fesul 100)
  • Marwolaethau cynamserol (cyfradd fesul 100,000)
  • Diagnosis o gyflwr iechyd meddwl a gofnodwyd gan feddyg teulu  (cyfradd fesul 100)
  • Nifer yr achosion o Ganser (cyfradd fesul 100,000)
  • Pwysau Geni Isel, Genedigaethau Sengl (genedigaethau byw sy'n llai na 2.5 Kg) (%)
  • Plant 4-5 oed sy'n Ordew (%)

Addysg (Excel doc) [81KB]

  • Sgôr Pwyntiau Cyfartalog y Cyfnod Sylfaen
  • Sgôr Pwyntiau Cyfartalog Cyfnod Allweddol 2
  • Sgôr Pwyntiau Cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer Pynciau Craidd
  • Absenoldeb Mynych (%)
  • Disgyblion Cyfnod Allweddol 4  yn mynd i Addysg Uwch (%)
  • Oedolion 25-64 oed Heb Gymwysterau (%)

Mynediad at wasanaethau (Excel doc) [171KB] 

  • Diffyg argaeledd canrannol band eang ar 30Mb/e (%)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i fferyllfa (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i siop fwyd (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i feddygfa (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i swyddfa'r post (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i ysgol gynradd (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i lyfrgell gyhoeddus (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i gyfleuster chwaraeon (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i ysgol uwchradd (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i fferyllfa (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i siop fwyd (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i feddygfa (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i swyddfa'r post (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i ysgol gynradd (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i lyfrgell gyhoeddus (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i gyfleuster chwaraeon (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i ysgol uwchradd (munudau)
  • Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i orsaf betrol (munudau)

Tai (Excel doc) [63KB]

  • Pobl sy'n byw mewn cartrefi gorlawn (%)
  • Y tebygolrwydd o dai o ansawdd gwael (%)
  • Y tebygolrwydd o dai sy'n cynnwys peryglon difrifol (%)
  • Y tebygolrwydd o dai sydd mewn cyflwr gwael (%)

Diogelwch Cymunedol (Excel doc) [81KB]  

  • Difrod Troseddol a Gofnodwyd gan yr Heddlu (cyfradd fesul 100)
  • Troseddau Treisgar a Gofnodwyd gan yr Heddlu (cyfradd fesul 100)
  • Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Gofnodwyd gan yr Heddlu (cyfradd fesul 100)
  • Bwrgleriaethau a Gofnodwyd gan yr Heddlu (cyfradd fesul 100)
  • Achosion o Ddwyn a Gofnodwyd gan yr Heddlu (cyfradd fesul 100)
  • Digwyddiadau Tân (cyfradd fesul 100)

Amgylchedd Ffisegol (Excel doc) [79KB]  

  • Gwerthoedd crynodiad cyfartalog wedi'i bwysoli gan y boblogaeth ar gyfer Nitrogen deuocsid 
  • Gwerthoedd crynodiad cyfartalog wedi'i bwysoli gan y boblogaeth ar gyfer Gronynnau < 10 µm
  • Gwerthoedd crynodiad cyfartalog wedi'i bwysoli gan y boblogaeth ar gyfer Gronynnau < 2.5 µm
  • Sgôr Perygl Llifogydd
  • Sgôr ar gyfer agosrwydd at Fan Gŵyr dd Naturiol Hygyrch (%)
  • Sgôr ar gyfer Mannau Gŵyr dd Amgylchol.