Un diwrnod arall! Cyfle i ddweud eich dweud am ddyfodol lleoliad allweddol yn y Mwmbwls
Mae pobl y Mwmbwls yn cael dylanwad mawr ar ddyfodol ardal o dir ar lân y môr.


Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn casglu barn pobl ynghylch sut i ddefnyddio ardal yn y dyfodol sydd wedi bod yn gartref i gyrtiau tennis dros y blynyddoedd diwethaf.
Hyd yn hyn, mae oddeutu 2,000 o bobl wedi cwblhau'r arolwg.
Mae copïau caled o'r cwestiynau ar gael yn Llyfrgell Ystumllwynarth. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 23:59 heno (nos Wener, 31 Ionawr).
Mae rhai pobl am i'r cyrtiau - ar dir rhwng gwesty'r Oyster House a Chlwb Bowls Ystumllwynarth - aros.
Mae gan bobl eraill syniadau a all yn eu barn nhw fod o fudd mwy i'r Mwmbwls.
Mae'r arolwg - gan berchnogion y tir, Cyngor Abertawe - yn ceisio deall sut hoffai preswylwyr y Mwmbwls, busnesau, sefydliadau ac ymwelwyr i'r tir gael ei ddefnyddio yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y cyngor, "Bydd y syniadau hyn yn helpu i lywio unrhyw fuddsoddiad yn y safle yn y dyfodol. Byddai'r lawnt fowlio'n aros fel y mae."
Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor, "Rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y safle hwn i ddweud ei ddweud drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad."
Ar hyn o bryd, mae'r cyrtiau tennis yn gartref dros dro i dimau adeiladu sy'n gweithio ar brosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls, y dylid ei gwblhau yn hanner cyntaf y flwyddyn.
Ni wneir penderfyniad ar ddyfodol y lleoliad tan i safbwyntiau preswylwyr y Mwmbwls, busnesau, sefydliadau ac ymwelwyr gael eu hystyried.
Unwaith y mae'r Cyngor wedi ystyried yr holl ymatebion, rydym yn bwriadu cyhoeddi cynllun cychwynnol ar gyfer y lleoliad - i'w drafod ymhellach â'r cyhoedd.
Bydd unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol yn amodol ar gyllid a chaniatâd cynllunio.
Llun: Ardal Gerddi'r Mwmbwls.