Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc sglefrio wedi'i uwchraddio bellach ar agor yng Ngorseinon

Mae parc sglefrio wedi'i uwchraddio bellach ar agor ym Mharc Melin Mynach yng Ngorseinon.

Melin Mynach Skate Park

Melin Mynach Skate Park

Mae rampiau, llethrau a chwarter pibell yn rhan o'r cyfleuster wedi'i uwchraddio, sy'n rhan o fuddsoddiad o £2.8m gan  Gyngor Abertawe mewn chwaraeon olwynog ar draws y ddinas.

Mae'r gwaith hwn yn dilyn cyflwyno parc sglefrio mewn cymdogaeth gwell ym Mharc Coed Bach ym Mhontarddulais ychydig o fisoedd yn ôl.

Bydd llawer o safleoedd chwaraeon olwynog eraill ar draws Abertawe hefyd yn elwa o welliannau.

Gan weithio'n agos gydag arbenigwyr yn Curve Studio, mae'r cynlluniau'n golygu na fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl deithio mwy na dwy filltir i ddod o hyd i gyfleuster sglefrfyrddio neu chwaraeon olwynog wedi'i ailddatblygu ar ôl i'r buddsoddiad gael ei gwblhau.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'n braf gweld bod y parciau sglefrio gwell ym Melin Mynach a Choed Bach bellach yn cael eu defnyddio, wrth i ni barhau i gyflwyno cyfleusterau chwaraeon olwynog yn Abertawe y mae selogion yn eu haeddu.

"Bydd rhagor o welliannau o'r math hwn i ddilyn dros y misoedd a'r flwyddyn nesaf fel rhan o'n hymrwymiad i wneud Abertawe'n un o'r dinasoedd gorau yn y DU ar gyfer sglefrfyrddio, reidio beiciau BMX a chwaraeon olwynog eraill.

"Mae hyn yn dilyn buddsoddiad o £8m gan y cyngor i wella lleoedd parcio ar draws Abertawe er mwyn rhoi hwb i filoedd o blant a theuluoedd."

Mae safleoedd eraill sydd eisoes wedi'u cyhoeddi ar gyfer gwelliannau i'w parciau sglefrio'n cynnwys sgwâr sglefrio ym Mharc Victoria a pharciau sglefrio mewn cymdogaethau ym Mynydd Newydd ym Mhen-lan a Chanolfan y Ffenics yn Townhill. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer trac pwmpio newydd i feicwyr BMX newydd ac iau ym Melin Mynach, tra bydd y trac pwmpio presennol yn Nyffryn Clun yn cael ei adnewyddu.

Bydd manylion ynghylch pryd y bydd y gwaith gwella yn dechrau ar y safleoedd hynny - yn ogystal â gwybodaeth am safleoedd eraill a fydd yn elwa - yn cael eu cyhoeddi yn y man.

Mae'r buddsoddiad cyffredinol yn cynnwys cyllid gan aelodau ward, y gronfa buddsoddi cymunedol, a chynghorau cymuned a thref. Mae hefyd yn cynnwys grant teithio llesol, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Drafnidiaeth Cymru.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mehefin 2025