Gwerth £25,000 o grantiau ar gael i Men's Sheds y ddinas
Unwaith eto, mae Cyngor Abertawe'n cefnogi Men's Sheds ar draws y ddinas drwy sicrhau bod £25,000 ar gael i gefnogi siediau presennol a datblygiad rhai newydd.
Mannau cymunedol yw Men's Sheds, lle gall pobl o bob cefndir gwrdd, sgwrsio a chymryd rhan mewn gweithgareddau'r sied.
Maent yn rhan o rwydwaith sy'n ehangu o amgylch Abertawe a'r DU.
Dyma'r bedwaredd flwyddyn i'r cyngor gynnig y grantiau a llwyddodd naw prosiect i elwa o'r cyllid yn 2022/23.
Prynodd Gweithdy Cymunedol Abertawe offer sydd wedi'i alluogi i gynnal gweithgareddau crochenwaith, gwnïo a chrosio, a defnyddiodd Summit Good, fferm flodau Petallica (sied i fenywod) a Chlwb Criced Ynystawe'r arian grant i dalu am offer a nwyddau er mwyn cynnal gweithgareddau.
Mae Men's Sheds ledled Abertawe nawr yn cael eu hannog i wneud cais am arian eleni.
I wneud cais, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/cymorthAriannolMensSheds
erbyn y dyddiad cau sef ddydd Gwener 1 Medi.
E-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno.