Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadarnhau sioeau Bishop a Mabuse ar gyfer Arena Abertawe

Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer sioeau'r perfformwyr diweddaraf i gael eu cyhoeddi gan Arena Abertawe ar gyfer rhaglen 2022.

Arena at night CGI

Arena at night CGI

Bydd y digrifwr, John Bishop, yn perfformio yn y lleoliad newydd ar 15 Mawrth, gyda seren Strictly Come Dancing, Oti Mabuse, yn perfformio yno ar 24 Mehefin.

Mae perfformwyr eraill sydd eisoes wedi'u cadarnhau i berfformio yn yr arena'n cynnwys Alice Cooper a The Cult, Katherine Ryan, Rob Brydon a Diversity.

Rhagwelir y cyhoeddir prif berfformiwr agoriadol yr arena yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae Arena Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl a fydd yn cael ei rhedeg gan Ambassador Theatre Group yn rhan o ardal Cam Un Bae Copr gwerth £135m sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe, gan weithio ochr yn ochr â'r rheolwr datblygu, RivingtonHark.

Dan arweiniad Buckingham Group Contracting Ltd, bydd y gwaith adeiladu ar gyfer cam un Bae Copr wedi'i gwblhau yn ddiweddarach eleni, gyda'r arena yn agor ei drysau yn gynnar yn 2022.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Dyma ragor o newyddion cyffrous i Arena Abertawe, gyda rhagor o berfformiadau i'w cadarnhau dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys prif act cerddorol agoriadol yr arena.

"Mae gwaith adeiladu Bae Copr ar y safle'n parhau i wneud cynnydd sylweddol wrth i gynllun a fydd yn creu cannoedd o swyddi i bobl leol ac £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe gael ei gwblhau."

Ewch i www.swansea-arena.co.uk i brynu tocynnau, cael rhagor o wybodaeth neu gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio sy'n golygu mai chi fydd y cyntaf i glywed pan fydd tocynnau sioeau'r dyfodol yn mynd ar werth.

Mae nodweddion eraill Bae Copr yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw, pont newydd dros Oystermouth Road, mannau parcio newydd, cartrefi newydd a lleoedd ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch.

Mae'r arena'n rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sy'n cael ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn.