Plac glas yn anrhydeddu'r pensaer a ddyluniodd adeiladau eiconig y ddinas
Efallai nad yw ei enw'n gyfarwydd i lawer, ond mae ei waith yn bendant yn gyfarwydd.


O adeilad trawiadol Oriel Gelf Glynn Vivian yng nghanol y ddinas i'r YMCA ar St Helen's Road, roedd Glendinning Moxham wedi helpu i lunio golwg Abertawe - un adeilad ar y tro.
Nawr, mae ei gyfraniad at dreftadaeth bensaernïol y ddinas wedi'i gydnabod yn ffurfiol gan Gyngor Abertawe gan blac glas a ddadorchuddiwyd yn Bristol Channel Yacht Club - un o'i ddyluniadau mwyaf nodweddiadol.
Cafodd y plac, sydd i'r chwith i brif fynedfa'r clwb, ei ddadorchuddio'n swyddogol gan y Cyng. Elliott King, Aelod Cabinet y cyngor dros Ddiwylliant.
Mae'r plac a gynigiwyd gan Jeff Stewart, Robert Johnson a Huw Griffiths - aelodau sefydlol The Swansea History Society - yn cyd-fynd â dathliadau'r clwb i nodi 150 mlynedd o fodolaeth.
Meddai'r Cyng. King, "Efallai nad yw Glendinning Moxham yn enw cyfarwydd, ond mae ei waith yn rhan o hanfod Abertawe.
"O'r celfyddydau a diwylliant i ofal iechyd a lletygarwch, mae ei adeiladau'n parhau i wasanaethu ac ysbrydoli ein cymunedau.
"Mae cynllun y placiau glas yn ymwneud ag anrhydeddu unigolion fel Moxham, y mae eu heffaith ar ein dinas yn aml o'r golwg yng ngolwg pawb.
"Mae'r cynllun hwn yn rhan o'n hymrwymiad i warchod a dathlu treftadaeth gyfoethog Abertawe."
Ganed Moxham ym 1865, ac astudiodd bensaernïaeth yn Nottingham cyn dychwelyd i Abertawe i ddechrau gyrfa a fyddai'n rhychwantu degawdau.
Mae dyluniadau adeiladau niferus eraill Moxham yn cynnwys pafiliwn chwaraeon Prifysgol Abertawe ar Sketty Lane, adeilad The London and Provincial Bank, Wind Street (tafarn The Bank Statement yn awr), Tŷ'r Olchfa yn Sgeti (lle mae Miller and Carter Steakhouse yn awr), Ysbyty Gorseinon ac Eglwys y Santes Hilary yng Nghilâ.
Goruchwyliodd waith adfer ar sawl eglwys hefyd a chynlluniodd lawer o breswylfeydd preifat yn Uplands, Sgeti a Chilâ, gyda strydoedd cyfan fel Eden Avenue yn cael eu priodoli iddo hefyd.
Mae cynllun placiau glas Cyngor Abertawe ar gyfer pobl a lleoedd bellach yn ei ddeuddegfed flwyddyn.
Ymhlith y rhai eraill sydd wedi derbyn plac glas y mae'r cerddor Pete Ham, y nofelydd Ann o Abertawe, yr ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth Jessie Donaldson, fforiwr pegwn y de Edgar Evans, a chae'r Vetch.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/PlaciauGlas i gael rhagor o wybodaeth.