Nodweddion diogelwch ffyrdd newydd i helpu ymwelwyr a phreswylwyr y Mwmbwls
Yr wythnos nesaf, mae contractwyr sy'n gweithio ar ein rhan yn bwriadu gosod nodweddion diogelwch ffyrdd newydd pwysig ar Mumbles Road yn y Mwmbwls.


Mae pedair ardal uwch newydd - pob un â gwell mynediad i gerddwyr - yn cael eu creu yn y mannau canlynol:
- wrth y fynedfa i Faes Parcio Ystumllwynarth;
- ger Village Lane;
- ger The Carlton Hotel;
- yn agos i fwyty The George.
Bydd y croesfannau ar yr un lefel â'r llwybrau troed a'r disgwyliad yw y byddant yn arafu cyflymderau ceir.
Bydd hyn yn helpu cerddwyr i gyrraedd y prom ar ei newydd wedd, busnesau, sefydliadau, digwyddiadau a chartrefi yn ddiogel.
Er mwyn helpu contractwyr i ymgymryd â'r gwaith, bydd dargyfeiriad ffordd bob nos - 8pm-6am - o ddydd Llun yma (sylwer: 6 Hydref ) i ddydd Iau.
Ar yr adegau hynny ni fydd traffig drwodd ar Mwmbwls Road i'r naill gyfeiriad a'r llall rhwng tafarn The White Rose wrth gyffordd Newton Road a maes parcio Knab Rock (sy'n parhau i fod ar agor).
Gosodir arwyddbyst i ddangos y llwybr amgen i draffig ffyrdd, gan gynnwys bysus; bydd yn cynnwys Newton Road, y B4593 Langland Road, Higher Lane, New Villas, Plunch Lane a Mumbles Road i'r de-ddwyrain o Verdi's.
Bydd mynediad o hyd i gerbydau, preswylwyr a phobl fusnes lleol.
Diolch am eich dealltwriaeth.
Ymholiadau: MumblesCPS@knightsbrown.co.uk