Miloedd yn dod at ei gilydd i ddathlu chwarae
Daeth miloedd o blant a'u teuluoedd at ei gilydd heddiw i ddathlu pwysigrwydd chwarae yn ystod digwyddiad am ddim enfawr yn Abertawe.

Roedd gweithgareddau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnwys sgiliau syrcas a gemau, adeiladu cuddfan, paentio wynebau, cymeriadau yn cerdded o gwmpas y lle, celf a chrefft yn ogystal â chaneuon a rhigymau yn Gymraeg.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, "Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i chwarae fel rhan hanfodol o'u datblygiad iach.
"Yn Abertawe rydym yn ceisio darparu cymaint o gyfleoedd i blant a'u teuluoedd chwarae gyda'i gilydd â phosib, a dyna'r rheswm y mae diwrnodau fel heddiw mor bwysig.
"Fel Cyngor rydym hefyd yn buddsoddi £8m mewn ardaloedd chwarae newydd neu sydd wedi'u gwella ym mhob ardal yn Abertawe ac rydym hefyd yn cefnogi teuluoedd gyda channoedd o weithgareddau am ddim a rhai â chymhorthdal yn ystod gwyliau haf yr ysgol yn ogystal â bysus am ddim yn ystod y penwythnos er mwyn eu helpu i'w cyrraedd."