Toglo gwelededd dewislen symudol

Virgin Media O2 Business yn cysylltu safleoedd PCYDDS yn Abertawe â'r rhwydwaith ffibr tywyll

Mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn falch o gyhoeddi bod Virgin Media O2 Business wedi gorffen adeiladu dolen rhwydwaith ffeibr tywyll ar draws wyth safle PCYDDS yn Abertawe.

Dark fibre network

Dark fibre network

Mae'r rhwydwaith ffeibr tywyll yn cynnig capasiti a chyflymderau diderfyn i bob diben, gyda'r ddolen arloesol yn sicrhau llif data parhaus rhwng safleoedd addysgol. Bydd ymchwil, addysgu a chydweithio ar draws y maes academaidd yn elwa o achos hyn. Bydd y rhwydwaith, sy'n hygyrch i safleoedd cysylltiedig yn unig, hefyd yn darparu cysylltedd diogel, cyflym a lle i ymestyn, gan wella effeithlonrwydd systemau mewnol, tra'n rhoi mwy o allu i gynyddu i weddu i ofynion y sector. 

Bydd y rhwydwaith yn cynyddu'r lled band ar unwaith i 40Gbps, gyda'r potensial ar gyfer 100Gbps rhwng campysau yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod holl gampysau Abertawe bellach wedi'u cysylltu ar gyflymderau eithriadol o uchel sydd fel arfer ar gael mewn un campws yn unig, ac mae sicrwydd o gyflymderau uwch byth yn y dyfodol, gan roi profiad tebyg i fyfyrwyr ar draws SA1 yn y tymor byr a'r tymor hir.

Bydd hyn yn galluogi addysgu hyblyg iawn, ffrydio fideo o ansawdd uchel iawn, ac amgylcheddau dysgu drwy ymdrochi, tra hefyd yn cefnogi ymchwil yn y dyfodol, yn ogystal ag atebion campws clyfar i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.

Mae'r seilwaith hwn yn golygu y gellir ailgyfeirio traffig ar unwaith os oes tarfu ar y rhwydwaith, gan gynnal cysylltedd dibynadwy a sicrhau gweithgarwch academaidd di-dor.  

Dywedodd James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous lle byddwn ni nawr yn dechrau gweld manteision rhwydwaith ffeibr tywyll ar draws campysau.  Mae'r gallu i fanteisio ar dechnoleg yn llawn o fewn dosbarth neu amgylchedd ymchwil yn cynnig ystod ehangach o gyfleoedd i academyddion a myfyrwyr, gan wneud ein safleoedd yn fwy diogel o ran data; rhywbeth sydd ei angen yn eang i ddiogelu addysg bellach yn y rhanbarth hwn."

Mae'r prosiect hwn yn gwireddu uchelgais y Rhaglen Seilwaith Digidol o sicrhau bod y Brifysgol a chyrff sector cyhoeddus yn cael mynediad at yr adnoddau technolegol gorau posibl. Mae'n rhoi cyfleoedd di-ben-draw i gydweithio rhwng sefydliadau ac yn cyflymu arloesi technolegol ar draws gwasanaethau sector cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Mae hon yn garreg filltir wych yng nghynllun y rhanbarth i fabwysiadu technoleg newydd i'n gwasanaethau sector cyhoeddus. Mae creu ffyrdd mwy cadarn o gydweithio, rhannu data a ffyrdd o ymchwilio yn sylfaenol i'r modd rydyn ni'n meithrin arferion gorau ar draws ein safleoedd addysg a gofal iechyd, a fydd ond yn creu rhagor o gyfleoedd arloesi yn y dyfodol."

Bydd y rhwydwaith newydd hwn, a fydd ar gael yn llawn erbyn mis Rhagfyr 2025, yn cynnig gwell capasiti a chyflymder a bydd yn caniatáu i lawer iawn o ddata gael ei rannu a'i gadw'n ddiogel. Ar ôl ei gwblhau, bydd y rhwydwaith ffeibr tywyll pwrpasol yn cysylltu 36 o safleoedd sector cyhoeddus ledled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gan gynnwys awdurdodau lleol, partneriaid addysg a gofal iechyd.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn neu i ofyn cwestiynau am gysylltedd digidol yn eich ardal, siaradwch â'ch Hyrwyddwr Digidol lleol.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Ebrill 2025