Toglo gwelededd dewislen symudol

Delweddau newydd yn dangos y tu mewn i ddatblygiad swyddfeydd Ffordd y Brenin

Mae delweddau newydd yn dangos sut bydd y tu mewn i ddatblygiad swyddfeydd mawr newydd yn hen safle clwb nos Oceana yn edrych unwaith y bydd ar agor.

New 71&72 image (Inside)

New 71&72 image (Inside)

Mae'r delweddau'n dangos nodweddion yr adeilad gan gynnwys ei derbynfa, ardal weithio hyblyg, ardal drafod ar gyfer busnesau a neuadd ddigwyddiadau.

Cyngor Abertawe sy'n datblygu'r cynllun, ac mae'r prif gontractwr Bouygues UK bellach wedi dechrau ar y gwaith sylfaenol ar y safle.

Bydd y datblygiad pum llawr, y disgwylir iddo gael ei orffen yn haf 2023, yn un di-garbon o ran ei weithrediad ac yn werth £32.6 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe pan fydd wedi'i gwblhau. Bydd yn cynnwys 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol gyda chyfleoedd cydweithio a swyddfa hyblyg i fusnesau mewn sectorau fel y rhai technegol a digidol a'r diwydiannau creadigol.

Mae'r datblygiad - a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi - yn rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sy'n cael ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn. Fe'i cefnogir hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae cynllun rheoli traffig ar waith ar hyn o bryd ar ran o Ffordd y Brenin er mwyn caniatáu i goncrit gyrraedd ar gyfer y gwaith sylfaenol.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r delweddau newydd hyn yn dangos y bydd y datblygiad o safon hwn yn fodern ac yn hyblyg ar gyfer y gymuned fusnes, ac mae galw am gynlluniau o'r math hwn yn parhau i fod yn sylweddol yn Abertawe er bod y pandemig wedi arwain at ragor o weithio gartref yn ddiweddar.

"Bydd y datblygiad yn helpu i gadw doniau busnes Abertawe mewn sectorau cynyddol fel technoleg a digidol, gan helpu i roi hwb ychwanegol i'r economi leol, denu rhagor o ymwelwyr i ganol y ddinas a rhoi'r cyfleusterau y mae eu hangen ar fusnesau i ehangu, ffynnu a chreu rhagor o swyddi ar gyfer pobl leol."

Bydd yr adeilad hefyd yn cynnwys teras ar y to, cysylltiad newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen a mynediad cyhoeddus a balconïau a fydd yn edrych dros ganol y ddinas a Bae Abertawe fel rhan o'r datblygiad.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Yn dilyn gwaith gwella sylweddol i olwg a theimlad Ffordd y Brenin a arweinir gan y cyngor, bydd y cynllun hwn yn ategu buddsoddiad sector preifat yn yr ardal sydd naill ai wedi'i chwblhau neu wedi'i chynllunio i greu rhagor o fywiogrwydd. Mae cynlluniau fel datblygiad myfyrwyr Coppergate, yr 'adeilad byw' arfaethedig a arweinir gan Hacer Developments a gwaith i adnewyddu adeilad The Potters Wheel a arweinir gan Coastal Housingyn arwydd o ffydd yn yr holl waith gwella rydym wedi'i wneud."

Cynhelir mynediad i fusnesau gerllaw drwy gydol y gwaith adeiladu. Mae arwyneb dros dro wedi'i osod yn fwriadol o flaen safle'r datblygiad a bydd palmant parhaol yn cael ei osod unwaith y bydd y prif waith adeiladu wedi'i orffen.

Gall unrhyw un sydd am dderbyn diweddariadau am y prosiect gofrestru i wneud hynny yn 7172TheKingsway@abertawe.gov.uk

 

 

 

Close Dewis iaith