Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybr newydd i gysylltu canol y ddinas â'r arena

Mae'n bosib bod ymwelwyr â chanol dinas Abertawe wedi sylwi ar lwybr lliw aur newydd yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant yn ddiweddar.

New gold-coloured pathway

New gold-coloured pathway

Bydd y llwybr, sy'n rhan o ardal Cam Un Bae Copr gwerth £135m, yn arwain o siop New Look i lawr i'r bont newydd dros Oystermouth Road sy'n cysylltu canol y ddinas ag Arena Abertawe a datblygiad y parc arfordirol.

Bydd y llwybr lliw aur yn mynd trwy ardal dros dro newydd sy'n cael ei chyflwyno ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant i gyflwyno mwy o fywiogrwydd yno, tra'n aros i'r safle gael ei adfywio yn y tymor hwy.

Mae parc dros dro bellach yn cael ei osod yno, ynghyd ag unedau bwyd a diod dros dro ar gyfer busnesau lleol newydd. 

Cyngor Abertawe sy'n datblygu ardal Bae Copr, ac fe'i cynghorir gan y rheolwyr datblygu RivingtonHark. Mae Buckingham Group Contracting Ltd yn arwain ar waith adeiladu'r ardal.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd y llwybr lliw aur newydd yn rhoi cyswllt clir rhwng canol y ddinas a'n hardal Cam Un Bae Copr gwerth £135m i breswylwyr lleol ac ymwelwyr ag Abertawe, a bydd busnesau ac adnoddau'n elwa o hynny.

"Mae'r llwybr wedi'i osod yn fwriadol mewn lliw aur i gyd-fynd â'r bont newydd dros Oystermouth Road â'r paneli trawiadol o gwmpas Arena Abertawe hefyd.

"Mae'n rhan o gynllun i ddatblygu cysylltiadau gwell nag erioed rhwng canol y ddinas â'n glan môr, a fydd yn gwneud mwy fyth o gynnydd cyn bo hir pan fydd cynigion cynnar ar gyfer safleoedd Gogledd Abertawe Ganolog a'r Canolfannau Dinesig yn cyflymu. 

"Mae ein partner datblygu arobryn o ddewis - Urban Splash - bellach yn rhan o'r cynllun, a bydd yn arwain ar y gwaith gwerth £750m i adfywio'r safleoedd hynny ac eraill, ond caiff cynllun dros dro ei gyflwyno hefyd ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant yn y cyfamser.

"Yn ogystal â pharc dros dro newydd ac unedau bwyd a diod dros dro ar gyfer busnesau lleol newydd, mae cyfleusterau chwarae i blant hefyd yn yr arfaeth yno, ynghyd â digwyddiadau i greu mwy fyth o fywiogrwydd tra'n aros i'r safle gael ei adfywio yn y tymor hwy."

Mae dymchwel adeilad Llys Dewi Sant a maes parcio aml-lawr Dewi Sant hefyd yn rhan o'r cynllun dros dro hwn ar gyfer yr ardal amgylchynol.

Caiff deunyddiau'r adeiladau a ddymchwelir eu hailddefnyddio fel rhan o arwyneb dros dro newydd ar y safle. Caiff lle parcio newydd ei gyflwyno'n fuan fel rhan o ardal Cam Un Bae Copr.

Cyflwynir goleuadau newydd hefyd ar y safle ynghyd â gwybodaeth i ddangos sut bydd yr ardal yn edrych yn y dyfodol.

Close Dewis iaith