Toglo gwelededd dewislen symudol

Annog preswylwyr i fynd i arddangosfeydd tân gwyllt wedi'u trefnu

Anogir preswylwyr i fynd i arddangosfeydd tân gwyllt wedi'u trefnu yn hytrach na chynnau eu rhai eu hunain y tymor Noson Tân Gwyllt hwn.

Fireworks in 2019

Fireworks in 2019

Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi'r heddlu, y gwasanaethau tân a'r gwasanaethau brys wrth annog pobl i beidio â chynnau eu tân gwyllt eu hunain yn eu gerddi neu yn y stryd.

Yn hytrach maent yn galw ar bobl i fwynhau eu hunain yn gyfrifol drwy ddilyn y Côd Tân Gwyllt, cadw anifeiliaid anwes y tu mewn a chadw llygad am eu cymdogion a'u plant.

Mae'r cyngor yn trefnu arddangosfa tân gwyllt am ddim ym Mae Abertawe ar 12 Tachwedd fel nad oes rhaid i breswylwyr drefnu eu rhai eu hunain.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Gall tân gwyllt fod yn swnllyd ac os nad yw pobl yn ofalus wrth ymdrin â nhw, gallant fod yn berygl i wylwyr a'r bobl sy'n eu cynnau.

"Ar ben hynny, mae tân gwyllt swnllyd, yn enwedig y rhai mewn digwyddiadau heb eu cynllunio neu ar y stryd yn peri gofid i lawer o bobl ac yn dychryn anifeiliaid anwes hefyd.

"Felly rydym yn annog pobl sydd am fwynhau'r tân gwyllt i fynd i arddangosfa a drefnir neu alw heibio ein digwyddiad tân gwyllt am ddim yr wythnos nesaf."

Mae timau safonau masnach Cyngor Abertawe hefyd wedi bod mewn cysylltiad â busnesau a manwerthwyr sy'n gwerthu tân gwyllt i sicrhau eu bod yn cadw at y rheoliadau gwerthu tân gwyllt, yn enwedig i'r rheini sydd dan oed.

Ewch i https://www.abertawe.gov.uk/TanGwyllti gael rhagor o wybodaeth am arddangosfa tân gwyllt am ddim y cyngor yr wythnos nesaf.

I gae rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio tân gwyllt yn ddiogel, ewch i wefan Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yma: https://www.tancgc.gov.uk/cym/newyddion/o-dan-sylw/diogelwch-noson-t%C3%A2n-gwyllt-a-chalan-gaeaf/

 

Close Dewis iaith