Cytunwyd! Penderfyniad i gadarnhau les i'r Gweilch weithredu maes San Helen
Mae Cyngor Abertawe a'r Gweilch wedi cytuno i gadarnhau les sy'n galluogi'r clwb rygbi i reoli maes hanesyddol San Helen o'r misoedd nesaf.


Llofnododd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, a Phrif Swyddog Gweithredol y Gweilch, Lance Bradley, y cytundeb yn y lleoliad glan môr heddiw (12 Awst).
Mae'r Gweilch yn bwriadu ymgartrefu yn San Helen a chawsant ganiatâd cynllunio y mis hwn i drawsnewid y lleoliad yn gyfleuster modern â lle i fwy nag 8,000 o bobl.
Mae buddsoddiad y cyngor yn y gwaith trawsnewid yn dal i fod yn amodol.
Meddai Rob Stewart, "Mae ein cytundeb i gadarnhau les yn arwydd arall y gall y Gweilch barhau i fynd â'u cynlluniau rhagddynt i aros yn Abertawe a thrawsnewid maes San Helen.
"Rydym yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi'r Gweilch. Mae'n hanfodol bwysig i chwaraeon a'r economi leol fod y clwb yn aros yn Abertawe ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod hynny'n digwydd."
Bydd trawsnewid San Helen yn ategu'r nod o ddatblygu parc gwyddor chwaraeon rhyngwladol ar gyfer Abertawe.
Mae cynlluniau'r Gweilch ar gyfer y maes yn cynnwys cae pob tywydd newydd, eisteddleoedd newydd ac adleoli eisteddle arall, ac adnewyddu teras y gogledd drwy osod canopi.
Y bwriad yw gweithredu San Helen fel lleoliad i rygbi o bob safon, gan gynnwys y lefel gymunedol. Byddai Clwb Rygbi Abertawe a Phrifysgol Abertawe'n aros yno.
Mae Undeb Rygbi Cymru'n ymgynghori ynghylch dyfodol y pedwar rhanbarth rygbi, gan achosi cryn ansicrwydd i gefnogwyr rygbi.
Mae'r cyngor a'r clwb yn cytuno y bydd y gwaith yn San Helen yn mynd rhagddo yn unol ag unrhyw benderfyniadau gan Undeb Rygbi Cymru ar strwythur y rhanbarthau yn y dyfodol.
Mae'r cyngor yn gweithio gyda Chlwb Criced Abertawe, a fydd yn ymuno â Chlwb Criced Gwasanaeth Sifil Abertawe i chwarae ar faes Sketty Lane ar ei newydd wedd o'r haf nesaf. Mae'n gweithio gydag Ysgol yr Esgob Gore i wella cyfleusterau chwaraeon ar ei phrif gampws; bydd disgyblion hefyd yn parhau i ddefnyddio safle Sketty Lane.
Llun: Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, a Phrif Swyddog Gweithredol y Gweilch, Lance Bradley, yn llofnodi'r cytundeb i gadarnhau les ar gyfer San Helen.