Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cais am gartref newydd i'r Gweilch yn cael ei gymeradwyo

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo cais am gynlluniau gan y Gweilch i drawsnewid maes San Helen yn gartref newydd ar eu cyfer.

St Helens

St Helens

Mae'r cynlluniau'n cynnwys lle i fyw na 8,000 o bobl, cae pob tywydd newydd, standiau newydd, adleoli stand y de i ben gorllewinol y cae, ac adnewyddu teras y gogledd gyda tho.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'n hanfodol bwysig i chwaraeon a'r economi leol fod y Gweilch yn parhau i gael eu lleoli yn Abertawe ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod hynny'n digwydd.

"Rydym yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi'r Gweilch.Rydym wedi cytuno ar brydles er mwyn iddynt sefydlu cartref newydd yn San Helen ac ehangu ei ddefnydd cymunedol.

"Ac rwy'n falch bod y pwyllgor cynllunio wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer yr ailddatblygu cyffrous.

"Drwy gael prydles a chaniatâd cynllunio ar waith, gall y Gweilch ddechrau bwrw ymlaen â'u cynlluniau i aros yn Abertawe a thrawsnewid maes hanesyddol San Helen yn gyfleuster chwaraeon modern."

Mae Undeb Rygbi Cymru yn ymgynghori ynghylch dyfodol y pedwar rhanbarth rygbi sydd wedi achosi rhywfaint o ansicrwydd i gefnogwyr rygbi.

Mae prydlesu'r tir gan y Gweilch a buddsoddiad Cyngor Abertawe'n parhau'n amodol.

Meddai'r Cyng. Stewart,"Gwyddom fod yr ansicrwydd ynghylch dyfodol y rhanbarthau wedi codi pryderon ynghylch amseriad y bwriad i ailddatblygu San Helen.

"Dyna pam rydym yn gweithio'n agos gyda'r Gweilch ac mae gennym gytundeb â nhw i sicrhau bod y gwaith yn San Helen yn mynd rhagddo'n unol ag unrhyw benderfyniadau gan Undeb Rygbi Cymru ar strwythur y rhanbarthau yn y dyfodol.

"Rydym wedi gwneud popeth y gallwn i gefnogi'r Gweilch i gyrraedd y pwynt hwn, ac rydym nawr yn gobeithio y bydd Undeb Rygbi Cymru'n dod â'r ansicrwydd sy'n wynebu'r rhanbarthau i ben ac yn cefnogi'r Gweilch i barhau i chwarae rygbi o'r safon orau yn Abertawe."

Mae'r Gweilch yn dymuno chwarae gemau cartref mewn stadiwm ar ei newydd wedd ym maes San Helen o'r tymor nesaf a'i weithredu fel lleoliad ar gyfer rygbi o bob safon, gan gynnwys lefel gymunedol. Byddai Clwb Rygbi Abertawe a Phrifysgol Abertawe yn parhau i chwarae rygbi yno.

Mae'r cyngor yn gweithio gyda Chlwb Criced Abertawe sy'n bwriadu symud o San Helen i gartref gwell Clwb Criced Gwasanaeth Sifil Abertawe yn Sketty Lane. Mae'n gweithio gydag Ysgol yr Esgob Gore i wella cyfleusterau chwaraeon ar ei phrif gampws; bydd disgyblion hefyd yn parhau i ddefnyddio safle Sketty Lane.

Cymeradwyodd y pwyllgor hefyd yr egwyddor o ddatblygiad cam dau, a fydd yn cynnwys ysgubor hyfforddi, campfa ac ystafelloedd newid.

Petai trawsnewidiad San Helen yn digwydd, byddai'n ategu'r nod o ddatblygu parc gwyddor chwaraeon rhyngwladol ar gyfer Abertawe.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Awst 2025