Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn cyflawni cynnydd ystyrlon ar gyfer ein cymunedau
Mae gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sy'n helpu i gefnogi pobl o bob oed ledled Abertawe'n parhau i gael eu cryfhau, yn ôl adroddiad newydd.

Mae camau gweithredu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant lleol, gwarchod a hyrwyddo ein hamgylchedd naturiol rhyfeddol a chryfhau cysylltiadau yn ein cymuned i gyd wedi helpu Abertawe i ddod yn lle da i fyw.
Andrea Lewis, dirprwy arweinydd ar y cyd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau sy'n cadeirio'r BGC yn Abertawe. Mae ei aelodau yn cynnwys cyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill fel y gwasanaeth tân ac achub, y bwrdd iechyd a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Meddai'r Cyng. Lewis: "Mae ein hymrwymiad i wneud Abertawe'n lle tecach, gwyrddach, mwy diogel ac iachach wedi llywio popeth rydym yn ei wneud. Mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain. Mae gwasanaethau wedi dod yn fwy hygyrch, mae cymunedau wedi tyfu'n gryfach, ac mae cynaliadwyedd wrth wraidd y ffordd rydym yn gweithio.
"O ehangu cefnogaeth i deuluoedd ifanc i ymgorffori hawliau dynol yn y ffordd rydym yn gwasanaethu ein cymunedau, mae eleni wedi dangos yr hyn sy'n bosib pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd.
"Rydym yn falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni, a gwyddom fod mwy i'w wneud."
Mae'r cyflawniadau allweddol a amlygwyd yn adroddiad blynyddol y 2024/25 y BGC yn cynnwys y canlynol:
- Plannwyd dros 10,000 o goed ledled Abertawe i wella bioamrywiaeth a chyfrannu at ymdrechion gwyrddlasu trefol. Mae'r sector cyhoeddus wedi llwyddo i leihau allyriadau carbon 20%, sy'n rhagori ar yr amcanestyniadau cychwynnol.
- Cwblhawyd Cynllun Strategol cynhwysfawr ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar ac mae'n cael ei gyflwyno ar draws asiantaethau, gyda chynnydd sylweddol yn y defnydd o wasanaethau ymyrryd yn gynnar.
- Ehangodd gwasanaethau Dechrau'n Deg i ardaloedd sydd wedi'u tangynrychioli, a gwellodd atgyfeiriadau Ymwelwyr Iechyd, gan alluogi cymorth datblygiadol cynharach i deuluoedd.
- Mae ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau dynol wedi'i hymgorffori yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol Abertawe, ac mae staff rheng flaen wedi'u hyfforddi i nodi anghenion cymunedol ac ymateb iddynt.
- O ran yr hinsawdd, mae Strategaeth Addasu a Lliniaru ddrafft wedi'i datblygu gyda mewnbwn helaeth gan y gymuned a llu o weithdai, gan osod y sylfaen ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.
- Daeth digwyddiad Pentref Diogelwch Cymunedol â thrigolion a gwasanaethau brys ynghyd i fynd i'r afael â materion diogelwch lleol, ac mae gweithdai ac ymgyrchoedd wedi'u targedu eisoes wedi arwain at ostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Lansiwyd rhwydwaith Abertawe Greadigol, sy'n dod â sectorau diwylliannol ynghyd i hybu ymgysylltiad lleol, yr economi a lles.
- Adolygwyd a gwellwyd strwythurau llywodraethu i gyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol, gyda gwell cydweithredu ar draws byrddau strategol.
- Datblygwyd porth data rhanbarthol gyda chefnogaeth Data Cymru, gan alluogi olrhain dangosyddion lles yn well a gwneud penderfyniadau gwell.
- Cyflwynwyd fframwaith monitro perfformiad newydd i olrhain gwaith cyflawni'r BGC a sicrhau atebolrwydd.
Meddai Roger Thomas, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Is-gadeirydd y BGC, "Mae ein cynnydd yn dyst i gryfder cydweithredu.
"Drwy wrando ar ein cymunedau a gweithio ar draws asiantaethau, rydym wedi cyflawni canlyniadau go iawn y gall pobl eu gweld drostynt eu hunain. O alluogi teuluoedd ifanc i wneud dechrau da mewn bywyd i gefnogi mentrau sy'n lleihau allyriadau carbon, dyma sut rydym yn gwneud Abertawe'n gryfach."
Ychwanegodd, "Gyda data cadarn, llywodraethu cryfach, ac egni o'r newydd ar gyfer newid, mae BGC Abertawe yn adeiladu momentwm i'r flwyddyn nesaf. Erys y ffocws yn glir: cyflawni cynnydd lle mae o'r pwys mwyaf i bobl Abertawe."