Prosiect unigryw Theatr y Palace yn helpu adeiladwyr arbenigol i ennill dwy wobr genedlaethol
Mae'r cwmni adeiladu o dde Cymru a gafodd ei gontractio gan Gyngor Abertawe i achub adeilad hanesyddol Theatr y Palace yng nghanol y ddinas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol wedi ennill dwy wobr genedlaethol.


Cafodd R&M Williams ei goroni'n Feistr Adeiladwr y Flwyddyn gan Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr.
Diolch i brosiect Theatr y Palace, cipiodd y busnes y wobr genedlaethol yng Ngwobrau'r Meistr Adeiladwyr 2025 yn y categori prosiect masnachol neu gyhoeddus hefyd.
Mae'r gwobrau'n dathlu llwyddiannau yn niwydiant adeiladu'r DU, gan gydnabod crefftwaith, gwasanaeth cwsmeriaid a phrosiectau rhagorol.
Gwnaeth y cyngor gaffael yr adeilad, a fu dan berchnogaeth breifat gynt, ychydig cyn y pandemig. Oherwydd hynny a gwaith contractwyr megis R&M Williams, mae bellach yn lle arloesol ar gyfer digwyddiadau a chydweithio a reolir gan Tramshed Tech.
Dywedodd y beirniaid fod y gwaith trawsnewid anhygoel wedi adfer, ail-lunio ac ailwampio adeilad Gradd II Theatr y Palace. Fe'i hadeiladwyd ym 1888 ond roedd wedi bod yn wag ers 2006.
Pan gymerodd y cyngor yr awenau, roedd mewn cyflwr gwael; nid oedd to ymarferol arno ac roedd llifogydd yn yr islawr.
Roedd y prosiect yn bosib oherwydd cyllid gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Fe'i cyflawnwyd gan dîm a oedd yn cynnwys y cyngor, GWP Architecture, Hydrock (sef Stantec bellach), TC Consult a'r prif gontractwr, R&M Williams.