Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorymdaith nodedig y Nadolig yn dychwelyd i Abertawe

Nodwch y dyddiad a dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau ynghyd i ddathlu traddodiad Nadoligaidd mwyaf nodedig Abertawe!.

Christmas Parade Santa 2024

Christmas Parade Santa 2024

! Bydd y ddinas yn llawn hwyl yr ŵyl nos Sul 23 Tachwedd am 5pm wrth i Orymdaith y Nadolig Abertawe feddiannu'r strydoedd. Bydd LLWYBR NEWYDD SBON a llu o bethau annisgwyl.

Bydd llwybr NEWYDDyr orymdaith eleni'n dechrau o Neuadd y Ddinas, lle bydd Siôn Corn yn goleuo'r adeilad yn goch. Dilynir hynny gan dân gwyllt i nodi dechrau'r orymdaith, a fydd yn teithio ar hyd St Helen's Road drwy Ffordd y Brenin, ar draws College Street, ar hyd Castle Street a Caer Street, ac yn gorffen ar Princess Way, gan gynnig golygfeydd a phrofiadau o fannau newydd i deuluoedd ledled y ddinas.

Byddwch yn barod am wledd o liwiau, cerddoriaeth a llawenydd wrth i fwy na 40 o grwpiau cymunedol, fflotiau gwefreiddiol a chymeriadau poblogaidd o straeon tylwyth teg a llyfrau comig, gan gynnwys Sinderela a Rwdaba (Rapunzel), lenwi canol y ddinas â hwyl yr ŵyl. Bydd Mr a Mrs Siôn Corn yn bresennol, gan godi llaw o'u sled hudol!

Bydd adloniant byw yn cadw hwyliau pawb yn uchel ar ddau lwyfan: llwyfan yn Neuadd y Ddinas a'r llwyfan traddodiadol y tu allan i The Dragon Hotel, lle bydd coeden Nadolig newydd ac y bydd Siôn Corn yn troi goleuadau Nadolig Abertawe ymlaen. Dilynir y ddefod honno gan ragor o dân gwyllt i oleuo awyr y nos.

Bydd diddanwyr proffesiynol, cymeriadau o straeon tylwyth teg ac archarwyr yn diddanu plant ac oedolion fel ei gilydd. Dyma'r cyfle perffaith i ddechrau dathlu'r Nadolig, ynghyd ag ymweliad yn gynharach yn y diwrnod â'r llyn iâ a'r bar Alpaidd yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau, a'r Ffair Nadolig Fictoraidd, lle bydd llu o roddion artisan, crefftau a danteithion Nadoligaidd yng nghanol y ddinas.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Gorymdaith y Nadolig Abertawe yw un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y ddinas, sy'n rhoi cyfle i'n cymunedau ddod ynghyd a dathlu dechrau cyfnod yr ŵyl.

"Mae'r llwybr newydd eleni'n cyflwyno cyfleoedd cyffrous i fwynhau'r cyffro o safbwyntiau newydd a bydd yn siŵr o fod yn noson wirioneddol fythgofiadwy.

"Mae'r orymdaith yn rhoi terfyn ar flwyddyn wych arall o ddigwyddiadau a gyflwynwyd gan Gyngor Abertawe, gan gynnwys Sioe Awyr Cymru, IRONMAN, Penwythnos Celfyddydau Abertawe a gŵyl Croeso, y mae pob un ohonynt yn arddangos bywiogrwydd a chreadigrwydd ein dinas."

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gweld map o'r LLWYBR NEWYDD drwy fynd i www.croesobaeabertawe.com/

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Tachwedd 2025