Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwyl yr ŵyl yn dod i Abertawe

Mae hwyl yr ŵyl yn dod i Abertawe wrth i dri o atyniadau mawr y Nadolig ddigwydd ar draws y ddinas.

Santa - Christmas Parade 2024

Christmas Parade Santa 2024

Mae'r dathliadau'n cynnwys Gorymdaith y Nadolig, y Ffair Nadolig Fictoraidd a  dychweliad Gwledd y Gaeaf ar y Glannau.

Bydd y Ffair Nadolig Fictoraidd, a drefnir gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth ag LSD Promotions, yn parhau tan ddydd Sul 23 Tachwedd.

Gall ymwelwyr ddisgwyl tua 50 o stondinau crefftwyr, masnachwyr mewn gwisgoedd Fictoraidd, bwyd stryd, adloniant gan berfformwyr crwydrol a pherfformiadau byw ar Stryd Rhydychen, Portland Street a Ffordd y Dywysoges.

Bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau hefyd yn dychwelyd i Barc yr Amgueddfa o ddydd Gwener 21 Tachwedd. Mae'n cynnwys llyn iâ dan orchudd, reidiau ffair bleser ac olwyn fawr, yn ogystal â bar Alpaidd, stondinau bwyd Nadoligaidd a drysfa coed Nadolig.

Bydd gan Orymdaith y Nadolig, a drefnir gan Gyngor Abertawe, lwybr newydd ar gyfer eleni a fydd yn dechrau o Neuadd y Ddinas ar ddydd Sul 23 Tachwedd. Bydd yn cynnwys Siôn Corn yn goleuo Neuadd y Ddinas yn goch, tân gwyllt, dros 40 o grwpiau cymunedol, fflotiau, dawnswyr a chymeriadau o lyfrau comig a straeon tylwyth teg.

Bydd adloniant byw ar y llwyfan hefyd ger Neuadd y Ddinas a'r tu allan i westy'r Dragon yn ogystal â chynnau goleuadau Nadolig Abertawe yn swyddogol.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r digwyddiadau hyn yn nodi dechrau tymor Nadoligaidd hudolus yn Abertawe.

"O swyn Fictoraidd ein ffair Nadoligaidd newydd i oleuadau disglair Gwledd y Gaeaf ar y Glannau a hwyl Gorymdaith y Nadolig, mae'r digwyddiadau hyn yn dod â'r gymuned ynghyd, yn ogystal â thraddodiadau a hud.

"Rydym yn gobeithio y bydd teuluoedd ac ymwelwyr yn ymuno â ni i greu atgofion, cefnogi ein masnachwyr lleol a dathlu Abertawe ar ei gorau dros y Nadolig."

Ar ôl gadael Neuadd y Ddinas, bydd Gorymdaith y Nadolig eleni'n teithio ar hyd St Helen's Road, Ffordd y Brenin, College Street, Castle Street a Caer Street cyn gorffen ar Ffordd y Dywysoges.

Ewch i www.croesobaeabertawe.com/nadolig-abertawe am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn ac am ddigwyddiadau Nadoligaidd eraill yn Abertawe y Nadolig hwn.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Tachwedd 2025