Pobl o bob oedran yn elwa o hwb cymunedol newydd
Mae cyfleuster cymunedol newydd a ddefnyddir gan bobl o bob oedran wedi cael ei agor ym Mhen-clawdd.
Adeiladwyd y Sied Gymunedol ar safle caeau chwarae Graig y Coed gan wirfoddolwyr drwy gymorth ariannol Cyngor Abertawe a lwfans aelod y ward, ynghyd â chyfraniad gan Gyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf.
Mae'n ategu prosiect coetir Graig y Coed sydd wedi trawsnewid tir gerllaw yn goetir cymunedol.
Mae dwy uned newydd y tu ôl i ystafelloedd newid y caeau chwarae a ddefnyddir fel yr hwb.
Mae un yn cynnig cyfleusterau gweithdy, gan ymuno â'r rhwydwaith o siediau dynion yn Abertawe sy'n parhau i ehangu.
Defnyddir y llall fel ardal gweini te ac ystafell ddosbarth i alluogi disgyblion ysgolion cynradd lleol i archwilio'r coetir.
Bydd ar gael i grwpiau cymunedol eraill hefyd.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Mae'n wych gweld cynifer o bobl yn dod at ei gilydd i roi'r hwb cymunedol ar waith a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan yn y fenter wych hon.
"Rwy'n falch bod Cyngor Abertawe wedi cyfrannu at gefnogi'r hwb hwn, yn ogystal â datblygu'r coetir cymunedol."
Meddai Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, Andrew Williams, "Rydym yn croesawu'r buddsoddiad hwn ym Mhen-clawdd yn fawr.
"Yr hyn sy'n wirioneddol gyffrous yw y bydd yr hwb o fudd i breswylwyr o bob oedran. Bydd disgyblion ysgolion cynradd yn ei ddefnyddio fel ysgol goedwig i archwilio'r coetir, a bydd preswylwyr hŷn yn ei ddefnyddio i gymdeithasu, cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd yn ôl yr angen."