Toglo gwelededd dewislen symudol

Atyniad Penderyn Abertawe'n datblygu

​​​​​​​Mae gwaith yn parhau ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, y bwriedir iddo ddod yn atyniad i ymwelwyr newydd ar gyfer wisgi Penderyn eleni.

The Hafod-Morfa Copperworks site

The Hafod-Morfa Copperworks site

Bydd y cynllun gan Gyngor Abertawe yn rhoi bywyd newydd i bwerdy a thai allan y safle hanesyddol. Bydd distyllfa ar y safle hefyd yn ychwanegu at gyfleusterau presennol y cwmni o Gymru.

Mae'r prif gontractwr, John Weaver Contractors, o Abertawe, wedi parhau â'r gwaith yn unol â chyfyngiadau'r llywodraeth drwy gydol y pandemig. Mae'r gwaith ar do y pwerdy wedi datblygu'n dda, sy'n golygu bod lle diddos bellach ar gael ar gyfer distyllfa Penderyn a fydd ar y safle yn y dyfodol.

Mae cyd-gwmni o Dde Cymru, Hayes Engineering & Cladding Ltd, wedi cynhyrchu - ac yn gosod - y fframwaith dur a fydd yn ailgreu tŵr cloc gwreiddiol y pwerdy.

Gwnaed llawer o waith hefyd ar y ganolfan ymwelwyr Penderyn newydd. Bydd llwybr newydd yn cysylltu'r ganolfan â rhan o felin rolio hanesyddol y safle, lle bydd gan Penderyn storfa casgenni.

Mae'r gwaith yn bosib diolch i grant £3.75 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar safle'r gwaith copr yn haf 2020. Mae'n rhan o raglen adfywio'r ddinas gwerth £1bn a fydd yn gweld Abertawe'n arwain y ffordd allan o'r pandemig.

Llun Aelod Cabinet Abertawe, Robert Francis-Davies ger yr atyniad Penderyn newydd ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa Abertawe.

Close Dewis iaith