Gwobr aur ar gyfer ysgol sy'n hyrwyddo'r Gymraeg
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Penyrheol yn dathlu ar ôl i'w hysgol ennill gwobr flaenllaw am annog disgyblion, staff a'r gymuned ehangach i siarad Cymraeg yn amlach.
Diolch i lawer o waith caled yn yr ysgol a chefnogaeth gan bartneriaid, gan gynnwys Cyngor Abertawe, mae'r ysgol wedi ennill Gwobr Aur y Siarter Iaith.
Menter gan Lywodraeth Cymru yw hon sy'n ceisio ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau.
Clare Lecrass: "Rydym ni mor falch! Mae'r Gymraeg yn bwysig iawn i bob un ohonom ni yma ym Mhenyrheol."
"Mae'r iaith yn perthyn i bob un ohonom ac mae'n symbol o'n treftadaeth a'n hanes, ac yn rhoi ymdeimlad o berthyn. Mae siarad Cymraeg yn meithrin ymdeimlad o gymdeithas, cynefin a balchder ac yn cyfrannu at amrywiaeth ac amlddiwylliannaeth Cymru a'n hysgol."
Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu: "Mae'r Cyngor yn cefnogi'n holl ysgolion i gynyddu eu defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc drwy ddefnyddio'r Siarter Iaith fel rhan o'n Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, felly llongyfarchiadau i bawb yn ysgol Penyrheol am ennill y wobr aur."