Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid ar gael i grwpiau i ddarparu cynhyrchion mislif am ddim

Mae cyllid sy'n sicrhau bod cynhyrchion mislif am ddim ar gael i fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif ar draws Abertawe ar gael unwaith eleni.

STOPP Period Dignity Grant 2025

STOPP Period Dignity Grant 2025

Mae cynhyrchion ar gael mewn mwy na 60 o leoliadau ledled y ddinas, gan gynnwys pob un o'r 17 llyfrgell, banciau bwyd a chanolfannau Faith in Families.

Gall grwpiau a sefydliadau wneud cais am gyllid gan fod grant eleni wedi'i lansio heno mewn noson wybodaeth a drefnwyd gan elusen STOPP (Swansea Takes On Period Poverty) i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Hylendid Mislif.

I wneud cais, ewch i www.swansea.gov.uk/perioddignitygrant, y dyddiad cau yw dydd Sul 22 Mehefin.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony, "Diolch i gyllid gan grant Urddas Mislif yn y Gymuned Llywodraeth Cymru, y llynedd roeddem yn gallu darparu cyllid i 35 o ymgeiswyr gwahanol.

"Mae hyn yn golygu bod cynhyrchion am ddim ar gael yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol bosib mewn mwy na 60 o leoliadau."

E-bostiwch TacklingPoverty@abertawe.gov.uk os hoffech drafod eich cais.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynhyrchion am ddim yn Abertawe, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/cynhyrchionmislifamddim

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Mai 2025