Helpwch i lunio cynlluniau ar gyfer parc sglefrio cymunedol ar-lein
Nawr, mae gan selogion chwaraeon olwynog a phreswylwyr lleol gyfle arall i helpu i lunio cynlluniau gwella parciau sglefrio sydd wedi'u clustnodi ar gyfer Tregŵyr ac Ynystawe.


Mae arolwg ar-lein ar gael yn dilyn gweithdai wyneb yn wyneb a gynhaliwyd y mis diwethaf.
Datblygwyd tri dyluniad gwahanol ar gyfer prosiectau parc sglefrio Elba ac Ynystawe felly bydd yr holl adborth o'r arolwg yn helpu i lunio'r cynlluniau terfynol.
Mae'r cynlluniau, sy'n cynnwys cydweithio agos gyda'r arbenigwyr yn Curve Studio, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £2.8m gan Gyngor Abertawe mewn cyfleusterau chwaraeon olwynog yn y ddinas.
Cynigir cyfleuster sy'n canolbwyntio ar feicio BMX ar gyfer cyfadeilad chwaraeon Elba yn Nhregŵyr, ac mae gwelliannau sylweddol yn yr arfaeth ar gyfer y parc sglefrio ym Mharc Ynystawe.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn gwybod bod sglefrfyrddio, beicio BMX a mathau eraill o chwaraeon olwynog yn boblogaidd iawn yn Abertawe ac felly rydym yn buddsoddi llawer o arian mewn cyfleusterau newydd o'r fath, neu rai sydd wedi cael eu gwella, ar draws y ddinas.
"Mae ein cynlluniau'n golygu ni fydd angen i bobl yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn Abertawe deithio dros ddwy filltir i gyrraedd cyfleuster chwaraeon olwynog newydd neu wedi'i wella, ac mae nifer o gynlluniau eisoes wedi cael eu cwblhau er budd pobl leol.
"Mae barn pobl sy'n dwlu ar chwaraeon olwynog a phreswylwyr lleol yn allweddol ar gyfer ein cynlluniau, a dyna'r rheswm y cynhelir ymgynghoriad helaeth ar bob cynllun.
"Rydym yn annog unrhyw un sydd heb weld y dyluniadau arfaethedig ar gyfer Elba ac Ynystawe i lenwi'r arolwg ar-lein sydd bellach ar agor ac i roi adborth."
Mae'r arolwg - sy'n cymryd pum munud i'w gwblhau - ar gael yn www.surveymonkey.com/r/ElbaYnystaweJune2025
Mae parciau sglefrio mewn cymdogaethau sydd wedi'u gwella bellach ar agor i'w defnyddio ym Mharc Coed Bach ym Mhontarddulais a Pharc Melin Mynach yng Ngorseinon.
Mae safleoedd eraill sydd eisoes wedi'u cyhoeddi ar gyfer gwelliannau i'w parciau sglefrio'n cynnwys sgwâr sglefrio ym Mharc Victoria a pharciau sglefrio yng nghymdogaeth Mynydd Newydd ym Mhen-lan a Chanolfan y Ffenics yn Townhill.
Mae cynlluniau hefyd ar gyfer trac pwmpio newydd i feicwyr BMX newydd ac iau ym Melin Mynach, a bydd y trac pwmpio presennol yn Nyffryn Clun yn cael ei adnewyddu.
Bydd manylion safleoedd eraill i elwa'n cael eu cyhoeddi maes o law.
Mae'r buddsoddiad cyffredinol yn cynnwys cyllid gan aelodau'r ward, cronfa fuddsoddi'r gymuned, cynghorau cymuned a thref a Llywodraeth Cymru trwy grant teithio llesol.