Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Pleidleisiau Post a thrwy Ddirprwy

Adnewyddu eich trefniadau ar gyfer pleidleisio drwy'r post

Etholiadau Senedd y DU a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu

Oherwydd newidiadau a gyflwynwyd gan Neddf Etholiadau 2022, dim ond am gyfnod o dair blynedd ar y mwyaf y gall trefniadau i bleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau'r Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu fod ar waith bellach. Mae hyn yn golygu, os yw etholwr am barhau i bleidleisio drwy'r post, bydd angen iddo wneud cais newydd bob tair blynedd.

Nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar drefniadau pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth Leol.

Yn ystod mis Mehefin 2025 byddwn yn ysgrifennu at bleidleiswyr drwy'r post presennol y mae angen iddynt ailymgeisio er mwyn i'w trefniadau ar gyfer pleidleisio drwy'r post barhau i fod ar waith.

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Os ydych yn dymuno parhau i bleidleisio drwy'r post yn etholidau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn y dyfodol rhaid i chi ailymgeisio nawr (yn agor mewn tab newydd)

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch i gwblhau eich cais:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Llun clir o'ch llofnod mewn llawysgrifen. Maen angen i hwn fod mewn inc du ac ar bapur gwyn plaen.
  • Y cyfeiriad lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio

Os na allwch ddarparu llofnod cyson oherwydd unrhyw anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu, cysylltwch â Gwasanaethau Etholiadol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Os na allwch gwblhau eich cais ar-lein, gellir lawrlwytho ffurflenni cais papur yma (yn agor mewn tab newydd) 

Fel arall, cysylltwch â: etholiadau@abertawe.gov.uk neu ffoniwch: 01792 636123 i gael copi papur wedi'i ddanfon i chi.

Dychwelwch y ffurflenni wedi'u cwblhau i'r Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Abertawe, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE

Canslo eich pleidlais drwy'r post

Os hoffech ganslo eich pleidlias drwy'r post, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Ydy pleidleisio drwy'r post y newydd i chi?

Os ydy pleidleisio drwy'r post yn newydd i chi ac rydych yn dymuno pleidleisio drwy'r post ym 'mhob etholiad' yn lawrlwythwch a chwblhewch (yn agor mewn tab newydd) y ffurflen a'i dychwelyd i'r cyfeiriad a ddarperir uchod.  

Eich dynodwyr personol a sut y cânt eu defnyddio

Yn eich cais i bleidleisio drwy'r post, gofynnir i chi ddarparu eich dyddiad geni a'ch llofnod (a elwir hefyd yn "dynodwyr personol").

Pan fyddwch wedyn yn pleidleisio drwy'r post, gofynnir i chi gwblhau a dychwelyd datganiad yn rhoi eich dynodwyr personol. Yna byddwn yn gwirio'r dynodwyr personol ar eich datganiad yn erbyn y rhai a wnaethoch chi eu rhoi are eich cais i sicrhau eu bod yn cyfateb. Os nad ydynt yn cyfateb, ni ellir cyfrif eich pleidlais. Mae hyn er mwyn atal rhywun arall rhag defnyddio eich pleidlais.

Mae eich dynodwyr personol bob amser yn cael eu cadw ar wahân i'ch papur pleidleisio, felly does neb yn gwybod sut y gwnaethoch chi bleidleisio.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mai 2025