Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ysgol 'llawn gweithgarwch ac egni cadarnhaol'

Yn ôl arolygwyr Estyn, mae Ysgol Gyfun Pontarddulais llawn gweithgarwch ac egni cadarnhaol ac mae'r staff yn ymroddedig i ddarparu profiadau dysgu o safon i ddisgyblion o fewn eu gwersi ac y tu hwnt i hynny.

Pontarddulais Comprehensive Estyn report 2024

Pontarddulais Comprehensive Estyn report 2024

Ymwelwyd â'r ysgol ym mis Rhagfyr ac maent bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad.

Mae'n datgan: "Mae Ysgol Gyfun Pontarddulais yn ysgol gyffrous a chynhwysol lle mae disgyblion, ni waeth beth yw eu cefndir a'u gallu, yn ffynnu'n academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.

"Fel rheol, mae disgyblion yn mwynhau'r ysgol, maent yn foesgar ac yn gwrtais wrth iddynt ryngweithio ag oedolion a chyda'i gilydd. Maent yn hyderus, yn barchus ac yn awyddus i ddysgu."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Mawrth 2024