Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb cyflogaeth yn agor yn ei gartref newydd

Mae Hwb Cyflogaeth Dros Dro hynod lwyddiannus Abertawe wedi symud i leoliad newydd yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant ond mae'n parhau i ddarparu'r holl gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl.

Pop-up Employability Hub

Pop-up Employability Hub

Ers ei lansio ar ddechrau'r haf, mae'r hwb a gynhelir gan wasanaeth cyflogadwyedd y cyngor, Abertawe'n Gweithio, wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau nifer o bobl.

Mae wedi cynnal 23 digwyddiad recriwtio ar gyfer busnesau a sefydliadau amrywiol ac wedi cefnogi dros 800 o bobl, gan gynnwys 50 o wladolion Wcráin sydd wedi ffoi o'r rhyfel.

Mae dros 200 o bobl wedi cael cynnig swyddi diolch i waith y tîm.

Agorodd yr hwb yn wreiddiol yn yr uned wag gyferbyn â siop HMV ond mae bellach wedi symud i ochr arall y ganolfan siopa, ger y fynedfa i'r orsaf fysus.

Mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael yn yr hwb ac mae partneriaid eraill yn cynnwys Cymunedau am Waith a Mwy, y Gwarant i Bobl Ifanc, Gyrfa Cymru, Hawliau Lles, Gweithffyrdd+, Elite Supported Employment, y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd a Busnes Cymru.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Pugh, "Mae Abertawe'n Gweithio yn cynnig amrywiaeth enfawr o wasanaethau, gan gynnwys cynlluniau gweithredu cyflogadwyedd wedi'u personoli, pecynnau hyfforddi wedi'u teilwra, datblygu CV, help gyda sgiliau cyfweliad a chefnogaeth gyda cheisiadau swydd, profiad gwaith, lleoliadau, prentisiaethau, cyfleoedd gwaith a chefnogaeth yn y gwaith.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n chwilio am waith, sy'n ystyried hyfforddiant neu sy'n awyddus i ddod o hyd i swydd well i alw heibio i weld y tîm."

Close Dewis iaith