Cynlluniau ar gyfer ysgol newydd yn cymryd cam arall ymlaen
Mae cynlluniau i adeiladu ysgol gynradd newydd sbon o'r radd flaenaf i wella addysg i ddisgyblion yn ardaloedd Blaen-y-maes a Portmead wedi cymryd cam arall ymlaen, ond gydag un newid mawr yn dilyn adborth gan staff, disgyblion a rhieni.

Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu adeiladu ysgol newydd sbon â chyfleusterau dan do ac yn yr awyr agored wedi'u gwella, megis meithrinfa ran-amser a darpariaeth Dechrau'n Deg, yn ogystal â Chyfleuster Addysgu Arbenigol ar gyfer y disgyblion hynny y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Bydd yr ysgol newydd yn gwasanaethu'r ddwy gymuned.
Y nod yw agor yr ysgol newydd yn 2031.
Fel rhan o'r broses, cynhaliwyd ymgynghoriad yn gynharach eleni ar gyfuno'r ddwy ysgol yn 2027 a chreu un corff llywodraethu ag un pennaeth.
Heddiw, mae Cabinet y cyngor wedi cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gyfuno'r ddwy ysgol, ond nid tan 2030, dim ond blwyddyn cyn i'r ysgol newydd sbon agor.
Yn unol â'r cynllun hwn, ni fyddai'r naill ysgol na'r llall yn gweld unrhyw newid am y pum mlynedd nesaf wrth i'r ysgol newydd gael ei dylunio a'i hadeiladu.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith, "Un o'r negeseuon clir o'r ymgynghoriad oedd bod y ddwy gymuned yn cydnabod bod angen adeiladau a chyfleusterau gwell.
"Roedd y prif bryder a fynegwyd yn ymwneud â'r dyddiad cyfuno arfaethedig, ac mewn ymateb i'r sylwadau hyn, mae'r cynllun wedi'i newid i sicrhau ni fydd yr ysgolion yn cael eu cyfuno tan 2030.
"Am y pum mlynedd nesaf, bydd y ddwy ysgol yn parhau i weithredu fel y maent ar hyn o bryd, a hoffem sicrhau staff, rhieni a disgyblion y bydd y ddau safle presennol yn parhau i fod ar agor nes bod yr ysgol newydd sbon o'r radd flaenaf yn barod."
Bydd safle arfaethedig presennol yr ysgol newydd yn agos at safle presennol Ysgol Gynradd Blaenymaes.
Bydd penderfyniad yn cael ei wneud o ran defnydd safleoedd presennol yr ysgolion yn y dyfodol ar ddiwedd y broses ymgynghori statudol os cymeradwyir y cynnig.