
Prosiect Amddiffyn Arfordir y Mwmbwls
Rydym ni'n bwriadu gwella ac adnewyddu'r amddiffynfeydd môr arfordirol sydd yn y Mwmbwls dros y ddwy flynedd nesaf.
Yn 2015, lansiodd Llywodraeth Cymru'r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol, a thrwy'r rhaglen hon, roedd arian ar gael i awdurdodau lleol ledled Cymru ymgymryd ag astudiaethau cam cyntaf neu arfarniadau prosiect i ddiffinio problemau ac adnabod datrysiadau eang ar gyfer ardaloedd a oedd mewn perygl o lifogydd. Nod yr arian sydd ar gael yw lleihau'r perygl o lifogydd a achosir gan lefelau'r môr yn codi a newid yn yr hinsawdd.
Lleoliad a gwelliannau arfaethedig
Bydd y gwaith arfaethedig yn ceisio gwella'r amddiffynfeydd arfordirol dros hyd o oddeutu un cilomedr ar hyd glan y môr.
Mae'r morglawdd amddiffynnol presennol yn y Mwmbwls yn amddiffyn y pentref amgylchynol a'i amwynderau. Mae'n cynnwys nifer o rannau o forglawdd fertigol a wal gynnal ar ogwydd sy'n cynnal y promenâd, gan ddarparu llwybr hamdden i gerddwyr, beicwyr a thrên bach y bae.
Prosiect Amddiffyn Arfordir y Mwmbwls - Y Promenâd (PDF, 4MB)Yn agor mewn ffenest newydd
Prosiect Amddiffyn Arfordir y Mwmbwls - Lleoliad/Maint y safle (PDF, 4MB)Yn agor mewn ffenest newydd
Adeiledir y wal a'r wal gynnal o goncrit màs ac oherwydd eu hoed, mae nifer o ddiffygion saernïol yn dechrau dod i'r amlwg. Bob blwyddyn mae angen gwneud atgyweiriadau aml i'r wal gynnal gerrig sydd ar ogwydd tuag at Knab Rock i lenwi bylchau sy'n ymddangos oherwydd erydu, ac mae'r wal fertigol tuag at Sgwâr Ystumllwynarth hefyd yn dangos arwyddion o wendidau saernïol.
Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys gwella'r amddiffynfeydd arfordirol i atgyweirio adeileddau presennol neu godi rhai newydd. Rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu'n darparu amddiffyniad rhag llifogydd sy'n well o lawer, wrth geisio darparu cyfleoedd pellach a manteision ehangach hefyd ar gyfer adfywio a thwristiaeth.
Dangosir enghreifftiau o'r amddiffynfeydd môr isod, sy'n dangos y cyflwr saernïol gwael y mae angen sylw arno.
Mae'r morglawdd presennol yn dangos ôl-traul oherwydd effaith cyson y tonnau.
Mae craciau amlwg ar hyd odre ac arwyneb y wal goncrit.
Ymgynghoriad
Dechreuwyd ymgynghori â rhanddeiliaid mewn digwyddiad cyhoeddus cychwynnol a gynhaliwyd yn Neuadd Victoria, y Mwmbwls ym mis Tachwedd 2019, y daeth llawer iddo. Mae llawer o'r digwyddiadau wedi'u cynllunio a chânt eu cynnal dros y misoedd i ddod er mwyn hysbysu'r gymuned yn llawn o statws y prosiect.
Byddwn yn penodi'r ymgynghorwyr dylunio a ffefrir ganddo dros y misoedd i ddod, gan arwain at gynyddu ymgysylltu ac ymgynghori â'r gymuned a dangos datrysiadau ac opsiynau dylunio amrywiol iddi.