Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion yn meddiannu siambr y cyngor i ddadlau dros yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw

Mae disgyblion o ddwy ysgol gynradd yn Abertawe wedi meddiannu siambr y cyngor yn ddiweddar i ddadlau dros faterion sy'n bwysig iddyn nhw.

Primary school pupils at council chamber

Primary school pupils at council chamber

Siaradodd aelodau cynghorau ysgol yn ysgolion cynradd St Thomas a Danygraig â'u cynghorwyr lleol, gan ofyn a fyddai'n bosib iddynt gael taith o Neuadd y Ddinas a defnyddio'r siambr.

Gwnaeth Tîm Partneriaeth a Chyfranogaeth y cyngor roi'r trefniadau ar waith ac roedd Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, y mae ei phortffolio yn cynnwys pobl ifanc, yn bresennol i gymryd rhan.

Roedd y pynciau yr oedd y disgyblion wedi dewis eu trafod yn cynnwys gwisgoedd ysgol, penwythnosau tri diwrnod a'r defnydd o blastig untro, a'r rôl mae'n ei chwarae mewn newid yn yr hinsawdd.

Meddai'r Cynghorydd Gwilliam, "Roedd y disgyblion wedi creu argraff dda iawn arnaf ac roedd eu cwestiynau'n ystyriol ac yn feddylgar iawn.

"Mae'n gyffrous taw nhw yw darpar wleidyddion y dyfodol oherwydd roedd yn glir i weld faint maent yn gofalu am yr amgylchedd a'r cymunedau lle maent yn byw."

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Gorffenaf 2023