Cymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru
Bydd preswylwyr a busnesau ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe'n elwa o welliannau sylweddol i rwydwaith trafnidiaeth y rhanbarth yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru.
Nod y cynllun, a fydd yn llywio buddsoddiad a datblygiad mewn trafnidiaeth hyd at 2030, yw ei gwneud yn haws, yn wyrddach ac yn fwy fforddiadwy i bobl deithio ar draws y rhanbarth.
Mae'n nodi sut y bydd trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio a rhwydweithiau ffyrdd yn cael eu gwella i gysylltu cymunedau'n well, cefnogi economïau lleol a chreu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer de-orllewin Cymru.
Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, sy'n dwyn ynghyd y pedwar awdurdod lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol yn y rhanbarth.
Mae'n dilyn proses ymgynghori helaeth lle rhannodd bron 900 o breswylwyr, busnesau a sefydliadau cymunedol eu barn ar y cynllun drafft.
Helpodd yr adborth i lunio'r cynllun terfynol, sydd bellach wedi'i gymeradwyo'n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cam nesaf yn cynnwys gwaith manwl i addasu'r rhestr derfynol o gynlluniau a fydd yn derbyn cyllid a dechrau ar y gwaith cyflwyno. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y byddant yn cael eu cadarnhau.
Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, "Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gam mawr ymlaen i Dde-orllewin Cymru.
"Bydd y cynllun hwn yn helpu i wneud teithiau bob dydd yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy cynaliadwy i breswylwyr, gan hefyd gefnogi busnesau a buddsoddiad newydd."
Meddai'r Cynghorydd Darren Price, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig, "Mae'r cynllun hwn wedi'i lunio gan bobl ardal De-orllewin Cymru.
"Gwnaethom wrando'n astud ar breswylwyr, grwpiau cymunedol a busnesau drwy gydol yr ymgynghoriad, ac mae eu barn wedi chwarae rhan hanfodol wrth greu cynllun sy'n adlewyrchu blaenoriaethau lleol."
Mae Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru yn disodli Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd 2015, a bydd yn llywio sut mae'r polisi cenedlaethol, a nodir y Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn cael ei gyflawni'n lleol rhwng nawr a 2030.
