Tîm Refeniw a Budd-daliadau'n barod i adleoli
Mae tîm refeniw a budd-daliadau Cyngor Abertawe yn paratoi i symud o'u canolfan bresennol yn y Ganolfan Ddinesig i hwb gwasanaethau cymunedol newydd Y Storfa yng nghanol y ddinas.
Mae'r Storfa, yn hen uned BHS ar Stryd Rhydychen, yn cael ei ddatblygu gan y cyngor fel hwb modern, hygyrch sy'n dod ag ystod o wasanaethau cyhoeddus allweddol ynghyd o dan yr un to.
Bydd Y Storfa yn agor yn ddiweddarach eleni, gyda dyddiad agor i'w gadarnhau yn yr wythnosau sy'n dod.
Ni ddisgwylir unrhyw darfu ar y gwasanaeth refeniw a budd-daliadau. Bydd y gwasanaeth yn parhau i fod ar gael yn y Ganolfan Ddinesig nes bod Y Storfa ar agor.
Bob blwyddyn, mae'r tîm refeniw a budd-daliadau'n croesawu tua 15,000 o ymweliadau personol, gan gefnogi preswylwyr gyda gwasanaethau sy'n cynnwys budd-daliadau tai, treth y cyngor, gostyngiadau treth y cyngor, ardrethi busnes, pasbort i hamdden, incwm a chyllid gofal cymdeithasol a phrydau ysgol am ddim.
Meddai'r Cyng. Andrew Williams, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau Corfforaethol, "Mae ein tîm refeniw a budd-daliadau'n darparu cymorth a chyngor ariannol hanfodol i filoedd o breswylwyr bob blwyddyn.
"Bydd symud i'r Storfa'n golygu y gallwn gynnig y gwasanaethau hyn mewn lleoliad mwy modern, canolog a hygyrch.
"Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda'n gwasanaethau Opsiynau Tai a Chymorth Tai, sydd hefyd yn adleoli i'r Storfa. Bydd cael yr holl wasanaethau hanfodol hyn o dan yr un to'n ei gwneud hi'n llawer haws i bobl gael yr help sydd ei angen arnynt - heb orfod teithio rhwng y Ganolfan Ddinesig a'r Stryd Fawr."
Ochr yn ochr â refeniw a budd-daliadau, bydd Y Storfa hefyd yn gartref i amrywiaeth o wasanaethau eraill y cyngor a phartneriaid, gan gynnwys Opsiynau Tai, Cymorth Tai, y Llyfrgell Ganolog, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a'r ganolfan gyswllt.
Bydd Cyngor ar Bopeth, Gyrfa Cymru a Llyfrgell Glowyr De Cymru hefyd wedi'u lleoli yno.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/ystorfa am ragor o wybodaeth.
 
		
 
			 
			 
			