
Rhestr wirio cit argyfwng
P'un a ydych chi'n aros neu'n gadael, bydd pacio cit argyfwng bach yn eich helpu.
Cadwch y cit mewn man diogel yn eich cartref lle gallwch ei gyrraedd yn hawdd. Dylech gadw eich cit mewn bag dwrglos a'r 10 prif beth i'w cynnwys yw:
- Eich
cynllun argyfwng ar gyfer yr aelwyd (Word, 55KB)Yn agor mewn ffenest newydd, gan gynnwys rhifau cyswllt
- Torsh batri gyda batris sbâr neu dortsh weindio.
- Pecyn cymorth cyntaf.
- Dogfennau pwysig megis tystysgrifau geni a pholisïau yswiriant.
- Dŵr mewn potel a bwyd parod na fydd yn difetha. Pacio agorwr caniau os bydd angen.
- Allweddi sbâr ar gyfer eich cartref a'ch car.
- Sbectol neu lensys cyswllt sbâr.
- Pethau ymolchi a manylion meddyginiaethau pwysig.
- Pin a phapur, cyllell boced, chwiban.
- Cyflenwadau ar gyfer anifeiliaid anwes.
Os oes rhaid i chi adael eich cartref, ac mae gennych amser i'w bacio'n ddiogel, dylech hefyd ystyried pacio:
- Meddyginiaethau hanfodol.
- Ffôn symudol a gwefrydd.
- Arian parod a chardiau credyd.
- Dillad a blancedi sbâr.
- Anifeiliaid anwes.
- Gemau, llyfrau, teganau plant.
Os bydd argyfwng lle nad yw'n ddiogel mynd allan, y cyngor a roddir fel arfer yw: Ewch i Mewn, Arhoswch i Mewn, Gwrandewch.
Ewch i mewn a chaewch bob ffenest a drws a throwch y radio lleol neu'r teledu ymlaen neu edrychwch ar y rhyngrwyd (newyddion lleol a chyfryngau cymdeithasol), lle bydd gwybodaeth a chyngor cyhoeddus gan yr ymatebwyr brys yn cael eu darlledu.