Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid newydd yn helpu prosiectau i wella cymunedau gwledig

Mae ystod o brosiectau newydd ar fin gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau gwledig Abertawe.

Swansea YMCA members

Swansea YMCA members

Maent yn cynnwys cyfleoedd hyfforddiant newydd i lysgenhadon twristiaeth gwirfoddol a chreu gardd gwenyn mêl.

Bydd eraill yn dod â llwyfan newydd i bobl ifanc ymwneud â materion amgylcheddol - ac astudiaethau pellach i sut y gellir cynhyrchu ffibrau o'r llin ynghyd â llifynnau naturiol i gynhyrchu tecstilau cynaliadwy.

Cynorthwywyd pob un drwy gyllid newydd gan y Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) a reolir gan Gyngor Abertawe.

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wella Busnes a Pherfformiad,   "Mae'n dda gweld y prosiectau hyn yn dod a gobaith, ysbrydoliaeth a chyfle newydd i'n hardaloedd gwledig; maent oll yn dangos brwdfrydedd dros y rhannau arbennig hyn o Abertawe.

"Dônt â chreadigrwydd ac uchelgais i gymunedau lleol ac maent yn helpu i fwyafu'r potensial sydd gan yr ardaloedd hyn yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Ysgogir y mentrau newydd gan y gymdeithas fasnach Twristiaeth Bae Abertawe, Cyngor Cymuned Pennard, YMCA Abertawe a'r cwmni budd cymunedol Gower Flax.

Meddai Cadeirydd Twristiaeth Bae Abertawe, Stephen Crocker, "Bydd y cyllid diweddar a gawsom drwy'r RhDG yn caniatáu i ni ddatblygu rhaglen hyfforddiant ar-lein a llunio pecynnau hyfforddiant newydd i helpu'n Llysgenhadon Gŵyr arbennig i roi profiad gwell o'n hamgylchedd lleol gwerthfawr i ymwelwyr.

"Dechreuodd prosiect Llysgenhadon Gŵyr bedair blynedd yn ôl ac mae 60 o wirfoddolwyr brwd a chanddynt gyfoeth o wybodaeth am yr ardal bellach yn rhan ohono.

"Maent yn helpu mewn digwyddiadau yng Ngŵyr ac yn eu cyfoethogi, maent nhw'n cwrdd a chyfarch ymwelwyr ac yn rhannu gwybodaeth, straeon a manylion gemau cudd."

Meddai Cadeirydd Pwyllgor yr Amgylchedd y Cyngor Cymuned, Susan Rodaway, "Rydym wrth ein bodd y dyfarnwyd grant RhDG i ni ac yn hynod ddiolchgar i'w Grŵp Gweithredu Lleol am weld y potensial yn ein prosiect. 

"Rydym yn bwriadu creu adnodd cymunedol gwych drwy weithio'n agos gydag Ysgol Gynradd Pennard a'r gymuned ehangach.

"Caiff ein Gardd Gwenyn ei chreu drwy gasglu a chompostio gwastraff bwyd cartref."

Meddai Prif Weithredwr YMCA Abertawe, Anne-Marie Rogan, "Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau cyllid gan y RhDG.

"Bydd hyn yn cefnogi'n gwaith i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc ar draws Abertawe wledig lwyfan i gael dweud eu dweud a chymryd rhan yn weithredol wrth ddarparu atebion dilys, arloesol a chreadigol, a arweinir ganddynt hwy fel ieuenctid, i newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng hinsawdd.

"Mae gan bobl ifanc y pŵer i ddylanwadu'n gadarnhaol a newid y byd y maent yn byw ynddo, a bydd y cyllid hwn yn helpu i wneud i hyn ddigwydd."

"Bydd ein prosiect'Youth Solutions' Abertawe Wledig yn darparu llwyfan digidol ac wyneb yn wyneb i bobl ifanc."

Meddai Cyfarwyddwr Gower Flax, Arwen Roberts, "Rydym mor gyffrous i sicrhau cyllid y RhDG. Bydd yn ein galluogi i barhau â'n hymchwil i greu system decstilau atgynhyrchiol i Gymru.

"Bydd ein rhaglen cynnwys y gymuned yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o ble a sut mae ein tecstilau'n cael eu tyfu - a'r effaith y mae ein dillad yn ei chael ar yr amgylchedd.

"Byddwn yn gallu rhannu'n taith tecstilau a lliw â'r gymuned leol, grwpiau, ysgolion, colegau a phrifysgolion."

Rhaglen saith mlynedd Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yw'r RhDG a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a rhaglen Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ddaw i ben yn 2023.

Meddai Cadeirydd y RhDG, Hamish Osborn, "Mae hyn yn ddetholiad cyffrous o brosiectau.

"Mae gwaith Gower Flax yn cyfuno ymagweddau arloesol a chynaliadwy at amaethyddiaeth a chynhyrchu tecstilau, bydd rhaglen Llysgenhadon Gŵyr yn gwella rhyngweithio rhwng ymwelwyr, y gymuned a'r amgylchedd, bydd menter y YMCA yn cysylltu pobl ifanc a'u helpu i gefnogi'i gilydd a'r gymuned - a bydd gardd gwenyn Pennard yn fuddiol i bobl leol a'r amgylchedd mewn sawl ffordd. "

Mae canlyniadau RhDG Abertawe yn cynnwys cynyddu hunanddibyniaeth gymunedol, datblygiad sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd a mwy o gefnogaeth i fioamrywiaeth.

Mae nodau allweddol yn cynnwys adeiladu cadernid cymunedol, mwyafu'r economi leol a chynyddu lles cymunedau gwledig.

Mae llwyddiannau rowndiau ariannu cynharach wedi cynnwys cynlluniau a arweiniodd at grŵp cymunedol di-blastig a fferm solar gymunedol gyntaf Cymru. Mae prosiectau ychwanegol fel Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned Cae Tân ac astudiaeth dichonoldeb gwrthbwyso carbon gymunedol Coeden Fach yn ceisio dod o hyd i atebion arloesol sy'n cynorthwyo'r gymuned leol.

Ydych chi'n grŵp cymunedol neu'n sefydliad nid er elw â syniad arloesol a allai fod o fudd i gymunedau gwledig Abertawe? Bydd rownd ariannu newydd yn agor ar 12 Awst, felly cysylltwch â thîm y RhDG am ragor o wybodaeth.

Rhagor - https://www.abertawe.gov.uk/RhDG a https://cy-gb.facebook.com/rdpleader/

Close Dewis iaith