Popeth y mae angen i chi ei wybod am Benwythnos Celfyddydau Abertawe
Mae'r cyffro yn cynyddu ar gyfer Penwythnos Celfyddydau Abertawe, a chyda rhestr lawn o ddigwyddiadau am ddim yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws y ddinas, ni ddylid colli'r dathliad deuddydd bywiog hwn.

Mae'r cymysgedd deinamig hwn o raglennu yn rhad ac am ddim i bawb ac mae'n cynnwys dros 100 awr o arddangosfeydd sy'n ysgogi'r meddwl, gweithdai diddorol y gellir archebu lle ar eu cyfer, cerddoriaeth fyw a pherfformiadau sy'n arddangos talent leol amrywiol ac artistiaid rhyngwladol fel ei gilydd.
Mae rhaglen ddigidol lawn o'r digwyddiadau a gynhelir rhwng 11 a 12 Hydref ar gael yma.
Yr uchafbwyntiau eleni fydd yr artistiaid cyfryngau newydd Limbic Cinema, y gellir gweld eu cerfluniau monolithig 'Vessels' ar hyd Stryd Rhydychen, a gosodiad ar raddfa fawr yr artist sydd wedi ennill clodydd rhyngwladol Luke Jerram, 'Helios', gwledd i'r llygaid y gellir ei weld ym Mystwyr Abertawe. Mae gwaith y ddau artist yn cydnabod themâu perthynas dynoliaeth â'r haul, golau ac addoli.
Bydd y rheini sydd wedi bod yn ddigon ffodus i sicrhau tocynnau ar gyfer y ddau ddigwyddiad hyn y gwerthwyd pob tocyn ar eu cyfer yn ymuno â Michael Sheen, actor a Chyfarwyddwr Artistig Welsh National Theatre a Martyn Joseph, canwr/cyfansoddwr canu gwerin enwog am noson bersonol o adloniant yn Theatr Dylan Thomas. Draw yn The Pop Up, bydd Abertawe Greadigol yn cynnal sgwrs â Russell T Davies OBE, ysgrifennwr a chynhyrchydd enwog o Gymru, a fydd yn siarad yn eang am ei yrfa arloesol ym meysydd teledu, theatr ac adrodd straeon.
Bydd Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n arddangos digonedd o dalent Gymreig a bydd cyfleoedd i breswylwyr ac ymwelwyr fynegi eu hunaniaethau artistig eu hunain. Bydd plant bach creadigol wrth eu bodd â Rahh! Teigrod a Dreigiau: Gwisgoedd a Gwisgo i Fyny gyda Ren Wolfe ac efallai y bydd oedolion yn mwynhau cymysgedd ddifyr o berfformiadau drag, bwrlesg, comedi a chelf berfformio gyda pherfformiad o gabaret Queertawe gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain. Gall y rheini sy'n hoff o ffotograffiaeth dynnu lluniau o dirnodau enwog Abertawe gyda'r ffotograffydd Saba Humer, neu os ydych awydd chwerthin gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu tocynnau ar gyfer Steffan Alun & Friends, sydd newydd ddychwelyd o Ŵyl Ymylol Caeredin.
Bydd amrywiaeth wych o fandiau ac artistiaid o Gymru'n perfformio ar y llwyfan yn Orchrard Street, gan gynnwys y seren reggae Aleighcia Scott a'r grŵp sy'n herio genres a arweinir gan efeilliaid NOOKEE.
Bydd yr ŵyl hefyd yn amlygu doniau rhyngwladol, gan gynnwys Doris Graf, artist o'r Almaen ac Ifemelumma Nweri, dawnsiwr Igbo a anwyd yn Nigeria.
Meddai'r Cynghorydd Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, "Bydd preswylwyr ac ymwelwyr yn cael profiad anhygoel ym Mhenwythnos Celfyddydau Abertawe. Mae'n wych gweld pobl greadigol o Abertawe a thu hwnt yn ymgynnull i ddod ag amrywiaeth eang o dalent a dathliad o gelf i'n dinas."
Gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli unrhyw un o'n digwyddiadau bythgofiadwy drwy ddarllen ein rhaglen ddigidol neu gofrestru ar gyfer gweithdai yn croesobaeabertawe.com