Toglo gwelededd dewislen symudol

Atyniadau anhygoel yn helpu i hybu twristiaeth Abertawe i lefelau uwch nag erioed

Yn ôl ffigurau trawiadol newydd, mae diwydiant twristiaeth Abertawe'n parhau i fynd o nerth i nerth, gan gynyddu dros 3% yn 2024 a chyrraedd £658m.

tourism drone of the sea and city generic

Mae'r diwydiant bellach yn cynnal mwy na 5,400 o swyddi yn lleol, gan gadarnhau rôl ganolog y sector yn economi gynyddol y ddinas.

Mae nifer yr ymwelwyr yn amlygu'r llwyddiant. Cynyddodd nifer y diwrnodau a dreuliwyd gan ymwelwyr yn y ddinas oddeutu 2% ac roedd nifer yr ymwelwyr a arhosodd dros nos dros 3% yn fwy na'r ffigurau yn 2023. 

Roedd cyfraddau defnyddio gwestai'n gyson uchel drwy gydol y flwyddyn; y ffigur cyfartalog oedd 77% a'r uchafbwynt oedd 85% yn ystod misoedd yr haf. Mae'r ffigurau cynnar ar gyfer 2025 yn dangos bod y llwyddiant hwn yn parhau. Roedd cyfraddau defnyddio gwestai rhwng 64% a 77% yn ystod y chwarter cyntaf.

Gwnaeth y Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, ganmol yr ymdrech gydweithredol a oedd wedi arwain at y ffigurau, "Mae'r canlyniadau hyn yn dangos gwaith rhagorol tîm twristiaeth y cyngor a'r holl sector twristiaeth lleol.

"Drwy ymgyrchoedd marchnata sy'n creu argraff fawr, partneriaethau â busnesau, a chefnogi digwyddiadau cenedlaethol a lleol, rydym yn llwyddo i hyrwyddo Bae Abertawe fel cyrchfan y mae'n rhaid ymweld â hi ar unrhyw adeg o'r flwyddyn."

Ychwanegodd, "Mae llwyddiant aruthrol Tunes on the Bay, a'r newyddion y cynhelir yr ŵyl ar y traeth eto y flwyddyn nesaf, yn hollbwysig wrth ddangos bod ymwelwyr, busnesau a phobl leol fel ei gilydd yn credu bod Abertawe'n lle gwych sy'n llawn hyder." 

Meddai Kate Bowen, Rheolwr Cyffredinol The Morgans Collection (gan gynnwys Morgans Hotel a The Georgian Swansea), "Mae'r ffigurau twristiaeth newydd hyn yn wirioneddol gadarnhaol ar gyfer holl ardal Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, gan adlewyrchu cyfraddau defnyddio gwestai uchel yn y ddinas dros y blynyddoedd diwethaf.

"Yn Morgans, fel gwestai eraill ledled y ddinas, rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein busnesau i sicrhau ein bod yn rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid. Hoffwn gydnabod cyfraniad ein staff at sicrhau bod ein hymwelwyr yn mwynhau eu harhosiad ac yn dychwelyd dro ar ôl tro.

"Mae The Morgans Collection yn casglu amrywiaeth o lety, ac mae ei leoliad yng nghanol y ddinas mewn sefyllfa berffaith i elwa o'r buddsoddiad mewn rhaglen adfywio helaeth ledled y ddinas.

"Mae'r gwesty'n elwa o weithio gyda'r cyngor ar ymgyrchoedd marchnata cyrchfannau proffil uchel, yn ogystal ag elwa o'r rhaglen digwyddiadau mawr ledled y ddinas drwy gynnig pecynnau a buddion drwy gydol y flwyddyn."

Mae ymdrechion marchnata'r cyngor wedi bod yn allweddol i'r cynnydd sydd i'w weld yn ffigurau diweddaraf STEAM, a gyhoeddwyd i gyd-fynd ag Wythnos Twristiaeth Cymru, rhwng 12-18 Mai.

Mae'r fideos "Lle Hapus/Hwyl" eisoes wedi cael eu gwylio fwy nag 825,000 o weithiau ers i'r ymgyrch gael ei lansio ym mis Chwefror, ac mae ymgyrchoedd cyfryngau awyr agored ar hyd coridor yr M4 ac i mewn i Lundain wedi sicrhau mwy na 23 miliwn o argraffiadau.

Mae'r holl weithgareddau hyrwyddo yn cyfeirio ymwelwyr i wefan CroesoBaeAbertawe.com, a lansiwyd yn hydref 2024, gan gynnig profiad gwell i dwristiaid a busnesau lleol fel ei gilydd.

Ar yr un pryd, mae calendr llawn digwyddiadau'r ddinas - o Sioe Awyr Cymru ac IRONMAN 70.3 Abertawe i gyngherddau a gwyliau mawr - yn parhau i ddenu miloedd o bobl o bob cwr o'r DU.

Meddai'r Cyng. Francis-Davies, "Rydym yn benderfynol o barhau i roi mwy o resymau i bobl ddod yma. Mae ein rhaglen ddigwyddiadau a'n prosiectau adfywio parhaus yn allweddol i hybu nifer yr ymwelwyr a gwariant ledled y rhanbarth."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Mai 2025